google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffrae rhwng y prif weinidog a phenaethiaid y GIG dros restrau aros

Mae Conffederasiwn GIG Cymru, sy’n cynrychioli uwch swyddogion yn y gwasanaeth iechyd, wedi ymateb yn chwyrn.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Darren Hughes: “Does neb eisiau darparu gofal a thriniaeth o’r ansawdd gorau i boblogaeth Cymru, a thrin y bobl sydd ar restrau aros yn gyflym ac effeithiol, yn fwy nag arweinwyr a staff y GIG.”

Dywedodd na ddylid ystyried rhestrau aros ar eu pen eu hunain ond “fel rhan o’r system iechyd a gofal gyfan”.

Mae pob bwrdd iechyd, meddai, yn wynebu “her enfawr” wrth ryddhau cleifion sy’n iach yn feddygol “oherwydd y pwysau aruthrol ym maes gofal cymdeithasol”, a hynny er gwaethaf eu hymdrechion i weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol.

“Mewn rhai ysbytai mae 20% o welyau ddim ar gael wrth i gleifion aros i adael yr ysbyty,” meddai Mr Hughes.

“Mae hyn fel ceisio rhedeg y GIG gydag un llaw wedi’i chlymu tu ôl i’ch cefn – rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol a darparwyr gofal ond mae’n rhaid i’r prif weinidog fod yn agored ynglŷn â maint yr her a beth sydd angen ei gywiro.”


Source link

Views: 0

See also  Newport woman felt 'so guilty' having skin cancer while pregnant

Check Also

‘Taid a’i dractor yn darganfod cadwyn o’r Oes Haearn ar Ynys Môn’

Mewn rhaglen newydd ar BBC Radio Cymru, Trysorau o’r Mawn, mae Haf Roberts yn cyfarfod …

Milford Haven teacher ‘feared she would die’ during pupil attack, court hears

A teacher who was stabbed in the head by a pupil with a large kitchen …

Olivia Breen: Y ‘dewis perffaith’ i arwain Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Dywedodd y Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru, Gethin Jones fod y penderfyniad ddim …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
1 transporter conversion black edition. Available teacup yorkie puppies.