google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi marw ar ôl taro wal ar 100mya, gan ladd ei ferch 13 oed

Clywodd cwest fod dyn wedi marw ar ôl taro wal campfa tra’n gyrru ar gyflymder o 100mya, gan ladd ei ferch 13 oed.

Roedd John Daniel Roberts, 34 o’r Fflint, yn gyrru ei bartner Jennifer Vale, ei ferch Lacie a dwy ferch ifanc arall adref ar ôl ymweld â theulu yn gynnar ar 22 Ebril 2022.

Terfyn cyflymder yr ardal lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad oedd 40mya.

Clywodd y cwest fod tri pherson arall oedd yn y car wedi gofyn iddo arafu.

Roedd Mr Roberts, oedd yn trwsio teiars, i fod i wneud gwaith ar y BMW Saloon a doedd y perchennog heb roi caniatâd iddo yrru’r car.

Fe wnaeth fideos camerâu cylch cyfyng ddangos y car yn gwyro oddi ar yr A548 trwy ffens wifren cyn taro wal campfa Lyons Den ym Magillt, Sir y Fflint.

Bu farw Mr Roberts yn y fan a’r lle o anafiadau i’w ben, a bu farw ei ferch Lacie yn fuan wedi hynny.

Cafodd y dair a oroesodd y gwrthdrawiad eu hanafu’n ddifrifol.


Source link

Views: 0

See also  Llewyrch yr Arth i'w weld ar draws Cymru nos Wener

Check Also

Cardiff’s National Museum Wales ‘discussing closure for repairs’

A workers’ union has said it is in “early discussions” about the potential closure of …

Conwy teen bullied for Pfeiffer skull condition training as doctor

A teenager who underwent 44 surgeries for a rare skull condition has said it was …

Watch Wales' Xu in her Wimbledon opener

Follow Court 16 action as GB’s Mimi Xu takes on Daria Kasatkina on day 1 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime