google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i’r Uchel Lys

Mae’r cwmni’n gobeithio adeiladu llwybrau peilon trydan mawr, fydd yn cysylltu ffermydd gwynt gyda rhwydwaith y grid cenedlaethol.

Mae cefnogwyr yn dweud bod angen uwchraddio grid trydan Cymru er mwyn hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy a chyflwyno technolegau carbon isel fel ceir trydan a phympiau gwres.

Yn ffermio ger Llanymddyfri, disgrifiodd Dyfan Walters, 42, y “sioc” o dderbyn llythyron trwy’r post gan gwmni Green GEN oedd eisiau mynediad i’r tir fferm.

Tra’n disgrifio’r profiad o ddelio gyda’r cwmni dywedodd Mr Walters bod swyddogion yn “gorfodi eu hunain ar y tir” ac yn “rhoi pwysau ar ffermwyr”.

Ychwanegodd: “Ni really wedi bod yn becso bod protocols fel biosecurity a bod ddim yswiriant cywir gyda nhw.

“Fel ffermwyr, ni’n gyfarwydd gyda delio â chwmnïau mawr, cwmnïau trydan, BT, ond mae delio gyda cwmni Green GEN wedi bod yn brofiad hunllefus i fod yn onest, mae e’n totally wahanol i unrhyw brofiad ni wedi cael o’r blaen a mae eisiau bod yr ymddygiad yn newid.

“Ni’n credu bod achos cryf gyda ni a fi’n credu taw ni sy’n iawn. So ni’n erbyn y prosiectau yma, so ni’n gofyn am ddim byd y dylen ni fod yn ei gael, just polisïau sy’n edrych ar ôl ein ffermydd ni, a fi’n credu bod hwnna yn bwysig.”


BBC News

Advertisements

See also  Mabwysiadu: ‘Pwysig bod ni’n dweud straeon fel hyn’

Check Also

Rhyl man charged with murder after woman’s body found in burning van

A man has been charged with murder after a woman’s body was found in a …

Bed bugs crawling out the wallpaper in ‘worst ever’ Cardiff infestation

Millions of bed bugs were crawling out of mattresses in what a pest controller said …

World Rally Championship: Rally Scotland to take place in October as 2027 calendar released

The season will start on the icy tarmac roads in Monte Carlo from 21-24 January …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime