google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

1996: y flwyddyn mwyaf arwyddocaol yn hanes pop Cymraeg?

Roedd hwn yn gyfnod lle wnaeth diwylliant Britpop a’r sin gerddoriaeth Gymraeg rywsut ddechrau asio. Cyn i’r Furries, Catatonia a Gorky’s gael eu harwyddo a chael llwyddiant rhyngwladol, doedd neb o ddifri wedi pontio rhwng y sin Gymraeg oedd eisoes yn bodoli – wedi’i gwreiddio mewn gwleidyddiaeth, iaith a diwylliant Cymreig – a’r diwydiant cerddoriaeth fyd-eang.

Rhaid cofio’r cyd-destun ehangach hefyd. Roedd pres yn y diwydiant cerddoriaeth bryd hynny – mwy nag oedd erioed wedi bod o’r blaen. Roedd hi’n anochel, mewn ffordd, fod cerddorion oedd wedi’u magu mewn diwylliant Cymraeg yn mynd i groesi drosodd i’r brif ffrwd. Dim ond mater o amser oedd hi. O lle dwi’n gweld hi, mi oedd ‘Cŵl Cymru’ yn fwy o adain o Britpop nag oedd o’n wrthddiwylliant.

Beth bynnag oedd pobl yn ei feddwl am arwyddocâd hynny ar y pryd, does dim dwywaith, wrth edrych yn ôl nawr, fod y dirwedd wedi newid yn llwyr. Heddiw, mae’r rhesymau dros i artistiaid ganu drwy’r Gymraeg yn llawer mwy amrywiol. I rai, mae’n ffordd o fod yn rhan o sin. I eraill, mae’n dod yn gwbl naturiol. Ac i rai, dydy canu mewn mwy nag un iaith ddim yn rwbath i feddwl dwywaith amdano.

Mae gen i deimlad nad oedd neb, ar y pryd, yn ofnadwy o ymwybodol o’r shifft yna. Ond fel rhywun sy’n edrych yn ôl heddiw ar yr hanes a’r amserlen, dyna dwi’n ei weld.

Mae rhaglenni Y Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith? yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru am 16:00 ar 5 a 12 Gorffennaf, ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Cofio'n ôl i marathon cyntaf Caerdydd wrth baratoi am y ras nesaf

Check Also

Esther Rantzen: ‘Dynes glên oedd yn trio helpu pobl eraill’

Erbyn hyn mae Childline wedi helpu miliynau o blant drwy alwadau ffôn, sesiynau cwnsela ac …

Matt Tebbutt: Bwyd cysur a chynhwysion Cymreig

Yn ei fenter ddiweddara’ mae Matt wedi sgrifennu llyfr, Legacy Kitchen, sy’n edrych ar sut …

Newport Bus ‘crisis’ as financial problems delay accounts

Earlier this month, Companies House began action to strike it off the register of trading …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime