google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

16 wedi eu harestio yn dilyn protest gorsaf heddlu Caerdydd

Dywed Heddlu De Cymru bod protest yn cynnwys rhwng 50 a 60 o bobl yng nghanol Caerdydd brynhawn Llun, lle cafodd dyn 36 oed o Abertawe ei arestio “ar amheuaeth o rwystro’r briffordd yn fwriadol a cheisio creu trafferth yn gyhoeddus”.

Cafodd protest pellach ei chynnal yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd nos Lun, lle cafodd 16 o bobl eu harestio “ar amheuaeth o ymddygiad treisgar mewn gorsaf heddlu”, meddai’r llu.

Fe wnaethon nhw ychwanegu fod y rhai a gafodd eu harestio yn parhau yn y ddalfa ac mae ymholiadau yn digwydd.

Dywed Myfyrwyr Cymru i Balestina eu bod wedi eu “ffieiddio ac yn grac” gydag ymddygiad yr heddlu.

Mae Heddlu De Cymru wedi cael cais am ymateb i’r honiadau.

Dywed Adam Johannes, o Cardiff Stop the War Coalition, mai nod y brotest oedd tynnu sylw at gefnogaeth y cyhoedd am gadoediad yn Gaza a fyddai’n “achub miloedd o fywydau”.

Dywed fod symudiad gwrthryfel Cymru wedi sicrhau “ymdeimlad o argyfwng” gan ymgyrch filwrol Israel yn Rafah, sydd yn ne Gaza.


Source link

Views: 1

See also  Gwynedd: A487 reopens after Storm Darragh landslide

Check Also

Canfod dyn yn farw mewn eiddo yn y Barri

Mae dyn wedi cael ei ganfod yn farw mewn eiddo yn y Barri, yn ôl …

Bluebells are blooming in ancient woodlands – where's the best place to see them?

Five woodlands in Wales have been named the best places to see bluebells this spring. …

Cancer drug gave dad precious time with son – it can now give hope to others

A trial drug, which is prescribed when surgery is no longer an option, gave Huw …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Clothing & accessories. Player reviews : le migliori scelte di casino online non aams sicuri. cassinox güvenilir mi ? 2026 | lisans,Ödeme ve kullanıcı yorumları.