google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ystyried gwaharddiad ar ail-lenwi diodydd melys am ddim

Mae modd rhoi adborth ar y syniadau, dolen allanol tan ganol nos ar 23 Medi. Pe tai’r Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, byddan nhw’n dod i rym yn 2025.

Cafodd cynlluniau i gyfyngu ar brydau bargen (meal deals) â lefelau uchel o fraster, siwgr â halen eu cyhoeddi y llynedd, er mwyn mynd i’r afael â gordewdra a diabetes.

Lleisiodd adwerthwyr bryder am y cynllun yn sgil prisiau bwyd uchel, ac fe wnaeth elusen anhwylder bwyta ddweud y gallai’r syniad fod yn niweidiol i bobl â’r cyflwr.

Ym mis Mehefin 2020, fe wnaeth Yr Alban oedi mesur i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd sothach yn sgil y pandemig.

Cafodd cynlluniau i wahardd cynigion ‘prynu un a chael un am ddim’ ar fwyd sothach eu hoedi gan Lywodraeth y DU tan 2025.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am gefnogi pobl Cymru i wneud y penderfyniad “iachus” a “hawdd wrth siopa bwyd a mynd am bryd o fwyd”.

“Mae’r mesur arfaethedig hyn yn rhan o ystod eang o gamau, rhai’n wirfoddol a rhai’n orfodol, ry’n ni’n eu hystyried er mwyn annog y sector bwyd a diod i gynhyrchu, hyrwyddo a gwerthu bwyd a diod iachach,” meddai.


Source link

Advertisements

See also  Head told girl men would be 'all over her' - court

Check Also

Netball World Cup: Wales beat Ireland 33-76 to keep qualification hopes alive

Welsh Feathers kept alive their Netball World Cup qualification hopes with a comfortable 76-33 win …

WXV: Tafuna scores hat-trick as USA edge Wales 26-24 in Cardiff

Wales: Neumann; Cox, Keight, Bell, A Williams; George, Bevan; Davies, K Jones, Tuipulotu, B Metcalfe, …

‘Nid oes modd troi yn ôl’ ar daith annibyniaeth Cymru – Y Prif Weinidog

Yn siarad â rhaglen wleidyddol Politics Wales y BBC, dywedodd Joe Martin AS, aelod o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime