google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 24 2026

Ysgrifennydd Cymru’n cefnogi Vaughan Gething ‘yn llwyr’

Dywedodd Jo Stevens, a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol benywaidd cyntaf Cymru pan gafodd ei phenodi gan Syr Keir Starmer ddydd Gwener, mae’r grŵp Llafur yn y Senedd wedi cefnogi Mr Gething ac mae e ei hun yn canolbwyntio ar ei waith.

“Mae gan Vaughan fy nghefnogaeth lwyr fel prif weinidog – rwy’n meddwl ei fod yn gwneud job ardderchog,” dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales.

“Fe fydd yn cario ymlaen i wneud job ardderchog, ac rwy’ wir yn edrych ymlaen at gydweithio gydag e.”

Roedd Ms Stevens yn canmol y ffordd y darodd y prif weididog gytundeb i roi terfyn ar streiciau meddygon yng Nghymru, yr adolygiad i’r ddeddf yn gostwng terfynau cyflymer i 20mya a’r ymgynghoriad dros gynlluniau amaeth dadleuol.

Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, fe addawodd y Blaid Lafur i weithio gyda’r llywodraeth ddatganoledig yng Nghaerdydd i leihau rhestrau aros GIG Cymru.

Mewn ymateb i gwestiwn a fuasai’n hoffi gweld mwy o wasanaethau iechyd tebyg i’w gilydd yng Nghymru a Lloegr, atebodd: “Gobeithio.”

Ychwanegodd: “Rwy’n credu’n gryf os ydy pobl yn gwneud pethau’n dda yn unrhyw ran o’r DU dyliwn ni ddysgu o hynny, dyliwn ni rannu’r gwersi hynny.”


Source link

Advertisements

See also  Wales: UK's strongest women changing what female looks like

Check Also

Meigryn cronig: O’n i’n teimlo’n anobeithiol, dywedodd meddyg mod i’n ddramatig

Mae difrifoldeb y cyflwr hefyd yn amrywio o berson i berson. Gall rhai pobl brofi …

Tystiolaeth newydd am fywyd ‘arwr coll’ dosbarth gweithiol Cymru

Mae Rhodri Johns yn credu bod y ffaith fod Lewsyn wedi cael angladd yn dangos …

Football Association of Wales target more internationals at Wrexham’s Racecourse

Wrexham are looking to further develop the Racecourse with chief executive Michael Williamson stating that …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime