google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgrifennu englyn mewn cardiau Nadolig ers 40 o flynyddoedd

Advertisements

Mae’r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn cyfansoddi englyn bob blwyddyn i’w gynnwys yn ei gardiau Nadolig ers dros deugain o flynyddoedd.

Nadolig Llawen, Hwyl yr ŵyl, Cyfarchion y tymor. Dyna ambell gyfarchiad cyfarwydd Cymraeg mewn cardiau Nadolig. Ond yn ôl Myrddin, mae anfon englyn neu bennill mewn cerdyn yn rhan o gadw hen draddodiad yn fyw.

Fel un a fagwyd yn Llanrwst, a’i rieni’n cadw siop lyfrau yn y dref, meddai: “Dwi’n cofio oedd pobl yn dod i mewn i’r siop i gael cardyn Cymraeg a gofyn am bennill arno fo, cardiau pen-blwydd neu gydymdeimlad hyd yn oed.

“‘Dan ni’n defnyddio penillion, englynion mewn ffordd gymdeithasol iawn yn Gymraeg a dwi’n meddwl mai rhan o hynny ydi rhoi englyn ar gardyn Nadolig.

“Mae ein traddodidad barddol Cymraeg ni yn ei hanfod yn gymdeithasol iawn o hyd. Mae’r elfen yna i weld mewn bob math o ddathliadau, o ddydd gŵyl Dwynwen i briodasa’, i pan mae rhywun yn ymddeol. ‘Dan ni’n defnyddio barddoniaeth gymdeithasol ac elfen o hynny ydi’r englyn cardyn ‘Dolig.”


BBC News

See also  Eastenders yn 40: Atgofion Cymry Albert Square

Check Also

Neath school sports pitch lights keeping kids awake

Neighbours living by a school are demanding it removes sports pitch floodlights amid claims they …

Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Roedd yna ymddiheuriad i chwaraewyr Caerdydd yn dilyn y gêm gan brif hyfforddwr Portsmouth, John …

Middlesex thump Glamorgan to secure home semi-final

Metro Bank Women’s One Day Cup League Two, Radlett Glamorgan 94: Gammon 26; Harley 4-27 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime