google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgol lle bu athrawon ar streic i gosbi plant ar foreau Sadwrn

Dywedodd Mr Ebenezer fod cosbi disgyblion ar y penwythnos eisoes yn rhan o bolisi ymddygiad yr ysgol ers mis Medi – ond dywedodd nad oedd “angen i ni ei ddefnyddio tan nawr”.

Pan ofynnwyd i Mr Ebenezer am y trefniadau ar fore Sadwrn i ddisgyblion sy’n dibynnu ar drafnidiaeth am ddim, dywedodd: “Mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn medru bod yn bresennol.”

Fel rhan o’r polisi, mae disgwyl hefyd i ddisgyblion lanhau byrddau os ydyn nhw wedi’u fandaleiddio, a hel sbwriel.

Ychwanegodd Mr Ebenezer fod cael rhiant i eistedd wrth ymyl disgyblion yn ystod gwersi ysgol hefyd wedi cael ei weithredu fel cosb.

Bydd chwe disgybl yn mynychu’r cyfnod cosb fore Sadwrn, ac mae’r ysgol yn rhoi addysg i 1,300.

Mewn llythyr i rieni, esboniodd yr ysgol mai’r bwriad yw defnyddio’r gosb pan nad yw cosbau eraill wedi llwyddo.

Mae gan ysgolion yr hawl i gadw disgyblion ar dir yr ysgol ar ddyddiau Sadwrn, ac eithrio’r rhai yn union cyn ac ar ôl gwyliau hanner tymor.

Fe ddylai ystyriaeth gael ei roi i drefniadau teithio ond nid oes gwahaniaeth os ydyn nhw’n “anghyfleus” i rieni.


BBC News

Advertisements

See also  Tafarn eiconig y Vulcan wedi ailagor yn Sain Ffagan

Check Also

Fury v Joshua fight could see 1am start time at Principality Stadium

The expected timings for Tyson Fury and Anthony Joshua’s highly anticipated heavyweight boxing clash have …

Dyn ifanc wedi marw trwy anffawd ar ôl dianc o uned seiciatryddol – cwest

Cafodd yr ail gwest ei gynnal wedi i’r Uchel Lys ddiddymu’r un cyntaf, yn 1995, …

Cwpl oedrannus wedi marw yn dilyn ffrwydrad nwy a thân yn eu cartref

Mae cwest wedi clywed sut y gwnaeth tân ledu yn gyflym wedi i ddyn oedrannus …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime