google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgol Dyffryn Aman: Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad

Mae rheithgor yn ystyried a yw merch yn ei harddegau a drywanodd tri pherson mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn euog neu’n ddieuog o geisio llofruddio.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, yn ogystal â disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman, eu cludo i’r ysbyty ar ôl cael eu trywanu ar 24 Ebrill.

Mae’r ferch, na allwn ni ei henwi oherwydd ei hoedran, wedi cyfaddef trywanu ond mae’n gwadu ceisio llofruddio.

Yn ei araith grynhoi, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, William Hughes KC, fod “pwrpas a grym” i ymosodiad “ffyrnig” y ferch.

Dywedodd bod y lluniau CCTV o’r ymosodiadau gafodd eu dangos i’r rheithgor yn “annifyr a phryderus”.

Cyfeiriodd at nodiadau ysgrifenedig a oedd ym mag ac ystafell wely’r ferch, a oedd yn dweud pethau fel “pam ydw i eisiau lladd eraill gymaint ag yr wyf am ladd fy hun”, a “Rydw i’n mynd i gyflawni trosedd oes”.

“Mae’n un peth i ysgrifennu rhywbeth, ond yn beth arall i wneud beth chi wedi ysgrifennu lawr,” meddai Mr Hughes KC.

“Dywedodd y ferch wrth ddisgybl arall ei bod yn casáu Ms Elias ac eisiau ei lladd.

“Dywedodd wrth un arall y byddai’n gwneud rhywbeth twp a fyddai’n ei harwain at gael ei diarddel.”


Source link

Views: 1

See also  Rob Brydon: Fans cheer actor as he arrives at Gavin and Stacey set as Uncle Bryn

Check Also

Food waste meet the composters reclaiming our rubbish

Criw Compostio picks up waste, as well as wood shavings from a carpentry business and …

Nations Championship: Wales face more questions than answers after Durban defeat against South Africa

The baiting started early in Durban yesterday hours before kick-off. A Welsh runner turned up …

Wrexham transfer news: Boss Phil Parkinson confident of summer deals

Wrexham will be vying to push for a play-off spot in the second tier next …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime