google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi dweud ei bod am drywanu athrawes

Fe glywodd y rheithgor gyfweliadau a gafodd eu recordio gan yr heddlu gyda disgyblion oedd yn bresennol ar adeg y digwyddiad.

Dywedodd un disgybl, na ellir ei henwi oherwydd ei hoed, ei bod hi a’i ffrindiau wedi siarad gyda’r diffynnydd fore’r ymosodiadau yn y tai bach.

Yn ôl y tyst, fe ddywedodd y diffynnydd y byddai’n “gwneud rhywbeth twp, a allai arwain at gael fy ngwahardd o’r ysgol”.

“Oedd hi’n mynd i wneud rhywbeth i Mrs Elias,” meddai’r tyst.

“O’n i’n meddwl oedd hi’n mynd i slapio hi neu rywbeth. Doeddwn ni ddim yn gwybod pa mor ddifrifol bydde fe.”

Ychwanegodd y tyst: “Doeddwn i ddim yn deall pam fyddai hi eisiau slapio Mrs Elias.”

Clywodd y llys i’r diffynnydd drywanu Fiona Elias, Liz Hopkin ac yna disgybl arall ar iard yr ysgol yn ddiweddarach y bore hwnnw.


Source link

Advertisements

See also  Runner with Down's syndrome invited to New York marathon

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime