google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgol Dyffryn Aman: Merch, 14, ‘wedi dangos cyllell’ i’w ffrindiau

Clywodd y llys hefyd gan dad y diffynnydd, oedd yn gyfrifol am wneud yn siŵr nad oedd yna unrhyw arf ym mag ysgol ei ferch wedi digwyddiad yn yr ysgol ym mis Medi 2023.

Dywedodd y tad mai ef oedd biau’r gyllell gafodd ei defnyddio gan ei ferch i drywanu’r ddwy athrawes a disgybl.

Esboniodd y tad i’r rheithgor na welodd ei ferch ar fore 24 Ebrill cyn iddi fynd i’r ysgol, ac nad oedd felly wedi edrych yn ei bag.

Cafodd y gyllell ei dangos i’r rheithgor a dywedodd y tad fod y gyllell yn rhan o’i offer pysgota.

Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr y diffynnydd, Caroline Rees KC, esboniodd y dyn na ellir ei enwi, i’w ferch gael ei bwlio ac ar adegau iddi ddychwelyd adref “wedi ei dychryn”.

Clywodd y rheithgor bod y diffynnydd wedi hunan niweidio yn y gorffennol a’i bod yn “isel a’n ynysu ei hun” ar brydiau.

Mae’r ferch wedi cyfaddef trywanu’r tri ond yn gwadu ceisio llofruddio, ac mae’r achos yn parhau.


BBC News

Advertisements

See also  Cymunedau Môn yn harddu'r fro i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2026

Check Also

‘Dwi yma ers mod i’n 19 – pryd ga i ystyried fy hun yn Gymro?’

Dadl Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn ei hanfod yw mai label ieithyddol oedd …

Penodi Deon newydd â ‘phrofiad helaeth’ i Gadeirlan Bangor

Yn ôl Nia Catrin Williams mae hi eisiau “adeiladu ar y gwaith diwygio ac adnewyddu …

Lauren Price to defend world titles against Michaela Kotaskova on BBC in November

Price’s promoter Ben Shalom said: “Lauren Price is one of the biggest names in British …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime