google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysbyty Gwynedd: Cleifion mewn perygl yn sgil ‘anawsterau’ ocsigen

Advertisements

Clywodd y gwrandawiad bod Mr Abrahams, oedd â chanser yr ysgyfaint, wedi cael ei anfon i’r ysbyty gan ei feddyg teulu a’i fod yn cael trafferthion anadlu cynyddol.

Bu’n rhaid cael cymorth i fynd i’r tŷ bach ac roedd yn cael ocsigen trwy bibell drwynol.

Roedd gweithiwr gofal iechyd wedi trefnu silindr ocsigen cludadwy ar ei gyfer, ond wedi 10 munud aeth i weld sut oedd Mr Abrahams.

Sylwodd bod ei liw wedi newd ac fe ganodd y cloch argyfwng.

“Mae’n ymddangos bod y silindr heb ryddhau unrhyw ocsigen,” dywedodd y crwner.

“Cyn y digwyddiad yma, ac er hyd a lled y canser, roedd [Mr Abrahams] yn sefydlog. Roedd triniaeth wedi ei chynnig ar gyfer y canser.

“Mae’n fy arwain i gredu, oni bai am y digwyddiad yma, ni fyddai Jonathan Abrahams wedi marw pan y gwnaeth, a bod diffyg ocsigen am oddeutu 10 munud wedi cyflymu ei farwolaeth.”

Mynegodd y crwner obaith na fydd gofyn iddi ddelio â chwest tebyg eto, gan ddweud wrth berthnasau Mr Abrahams: “Amser yn unig a ddengys.”


BBC News

See also  Conwy water: Small businesses stay open amid disruption

Check Also

Neath school sports pitch lights keeping kids awake

Neighbours living by a school are demanding it removes sports pitch floodlights amid claims they …

Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Roedd yna ymddiheuriad i chwaraewyr Caerdydd yn dilyn y gêm gan brif hyfforddwr Portsmouth, John …

Middlesex thump Glamorgan to secure home semi-final

Metro Bank Women’s One Day Cup League Two, Radlett Glamorgan 94: Gammon 26; Harley 4-27 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime