google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr ysgol yn Singapore sy’n llawn o athrawon Cymraeg

A tydi’r Gymraeg ddim yn ddiarth i’r plant gan eu bod nhw wedi hen arfer clywed yr iaith ar ddechrau gwasanaethau’r bore diolch i’r gân Sgwennu Stori gan Gildas.

“Dwi’n cyflwyno’r gân i’r plant ac yn egluro bod o’n sôn bod pawb yn sgwennu stori o’u bywyd eu hunain. Mae’n gân sy’n codi hiraeth arna i hefyd – ro’n i’n arfer ei chware yn ysgol Cwmbrân, wedyn mynd â fo i Chile a’i chwarae i 900 o blant yn yr ysgol, a rŵan yn Singapore.”

Ychwanegodd bod yr ysgol yn elwa o gael staff o Gymru wrth i’r plant ddysgu am ddiwylliant gwahanol gan athrawon da:

“Dwi’n hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg ar Facebook. Mae rhai o’r athrawon yma yn tynnu coes bod rhaid dod o Gymru a siarad Cymraeg i ddysgu yma, ond dwi’m yn derbyn unrhywun – dwi eisiau’r athrawon gorau posib.

“Os ydyn nhw’n siarad Cymraeg dwi’n gwybod amdanyn nhw o flaen llaw – yn gwybod eu bod nhw’n bobl cryf ac yn gallu copeio efo byw mewn gwlad ddiarth ar ben eu hunain, a’u bod nhw’n athrawon da, a phroffesiynol, ac wedi cael y gefnogaeth orau yng Nghymru.

“Be’ dwi’n edrych amdano ydi rhywun sydd wedi cael magwraeth efo cefndir capel neu eisteddfod neu addysg Gymraeg, a’r profiadau mae hynny wedi rhoi iddyn nhw. Maen nhw’n tueddu i fod yn greadigol, ac wrth gwrs efo profiad o ddwyieithrwydd – sy’n bwysig mewn ysgol fel hon.”


Source link

Views: 0

See also  Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru ddydd Gwener

Check Also

Aberdaugleddau: Cyllell yn yr ysgol ‘er mwyn ei dangos i ffrindiau’

Yn ystod diwrnod cyntaf yr amddiffyn yn llys y Goron Abertawe, fe glywodd y rheithgor …

Pilot writes ‘I’m bored’ in sky during flight from Liverpool

A light aircraft pilot wrote “I’m bored” during a two-hour test flight – with his …

Cardiff set for multi-million pound shopping arcade revamp

Cardiff city centre is set for a multi-million pound shopping arcade revamp this summer. The …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Mash up capsule lakers satin jacket. Register your business listing dial 7498540947. The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.