google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr hanesydd Geraint H Jenkins wedi marw

Advertisements

Ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, dywedodd y Cyfarwyddwr, Elin Haf Gruffydd Jones: “Gyda thristwch mawr nodwn farwolaeth yr Athro Geraint H Jenkins, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan.

“Yn hanesydd praff ac un o ysgolheigion blaenaf ei genhedlaeth, gwnaeth gyfraniad aruthrol i ymchwil a dysg yng Nghymru, gan lywio Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru rhwng 1993 a 2008.

“Roedd yn awdur toreithiog ac yn gymwynaswr mawr i’w genedl ac ysbrydolodd genedlaethau o ymchwilwyr. Diolchwn am ei waith a’i gwmni a danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei weddw Ann ac at ei ferched a’u teuluoedd.”

Dywedodd yr Athro Mary-Anne Constantine y bydd hi “wastad yn ddiolchgar i’r Athro Geraint Jenkins am fy nghyflwyno i fyd byrlymus Iolo Morganwg a chyfnod cyffrous Cymru’r 1790au”.

“Treuliais bum mlynedd ar ‘Brosiect Iolo’ gyda thîm o ymchwilwyr gwych dan arweinyddiaeth Geraint, yn pori trwy lawysgrifau a darganfod rhyfeddodau.

“Roedd gan y ddau – Iolo a Geraint – weledigaeth angerddol am hanes a diwylliant Cymru.

“Yn ffodus inni, roedd sgiliau trefnu a llywodraethu Geraint tipyn yn well na rhai ei arwr!

“Bydd sawl un heddiw yn talu teyrnged i ddyn a oedd wedi rhoi cymaint o’i egni a’i amser i droi’r Ganolfan Geltaidd yn safle ymchwil byd-enwog, ac i sicrhau dyfodol i lawer o ymchwilwyr ar draws y disgyblaethau.”

Mae’n gadael ei wraig Ann, a’u merched Gwenno, Angharad a Rhiannon a saith o wyrion.


BBC News

See also  Teyrnged i 'dad arbennig' 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

Check Also

‘Diwrnod hanesyddol’ wrth i gyffur canser gael ei gymeradwyo – Mari Grug

Fel un sy’n byw gyda chanser Her2-positif nad oes modd ei wella, mae Mari Grug …

Welsh artist, 83, wins Trinity Buoy Wharf Drawing Prize

An 83-year-old artist from mid Wales has won one of the world’s most prestigious international …

County Championship: Crane moves Glamorgan towards safety against Surrey

Needing a record 612 to win, Surrey raced to 177-2 by the close, thanks to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime