google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr elusen sy’n rhoi lle i drafod iechyd meddwl yn Gymraeg

Ers i meddwl.org gael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2016, cyn cael ei gofrestru’n elusen yn 2020 mae Vicky’n dweud bod gan bobl “fwy o hyder i siarad ac i drafod am iechyd meddwl y dyddiau hyn”.

Ychwanegodd: “Mae hynny mor bwysig. Ac os nad yw rhywun yn cael ei effeithio ar hyn o bryd, rydyn ni’n annog pobl i fynd i edrych ar y wefan i weld y wybodaeth sydd gyda ni a hefyd edrych ar y dudalen gymorth.

“Achos falle mai dim chi fydd yn mynd trwy rywbeth, ond falle fydd yna ffrind neu aelod o’r teulu neu rywun chi’n gweithio gyda.”

A hithau’n flwyddyn fawr i meddwl.org, bydd yr elusen yn dathlu degawd o wasanaeth a chymorth gyda chyngerdd yn Neuadd Pontypridd ar 24 Hydref yng nghwmni Eden, Caryl Parry Jones, Lleuwen Steffan ac Academi Berfformio ABC.

“Rydyn ni’n edrych ‘mlaen yn fawr i’r gyngerdd, a bydden ni’n gwerthfawrogi os bydd unrhyw un yn gallu dod jyst i ddangos eu cefnogaeth,” meddai Vicky.

Bydd enillwyr gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, 19 Medi mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  County Championship: Cooke ton rescues Glam after Surrey strike

Check Also

Ceredigion family’s fear for hydropower worker missing after Nepal flood

Authorities have said rescue efforts have been largey focussed on the Trishuli 3A and 3B …

Conor Coady: Ex-England defender leaves Wrexham by mutual consent

Conor Coady has left Wrexham following the mutual termination of his contract with the club. …

Jeremy Monga: Swansea City to sign Manchester City winger as Leo Walta to leave

Monga is a product of Leicester City’s academy and made his senior debut for the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime