google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymchwilio i Aelod o’r Senedd yn sgil rhifau gwahanol ar ei char

Yn 2018, yn nyddiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fe gafodd Ms Passmore ei gwahardd o’r siambr am bythefnos am fethu â rhoi prawf anadlu.

Cafodd ei gwahardd rhag gyrru gan ynadon Casnewydd ar 12 Chwefror 2018, ar ôl cyfaddef methu â rhoi sampl.

Cafodd argymhelliad pwyllgor safonau’r Cynulliad i’w gwahardd am 14 diwrnod ei dderbyn heb wrthwynebiad yn y siambr.

Fe ymddiheurodd ar y pryd, gan grybwyll “brwydrau personol yr wyf wedi cael trafferth eu rheoli”.

Dywedodd Ms Passmore ei bod wedi ceisio gyrru o Gaerdydd i gartref ei mam ar ôl yfed tri gwydraid o win y diwrnod y cafodd ei harestio.

Dywedodd hefyd ei bod wedi cael pwl o asthma ac wedi cymryd dos uchel o’r feddyginiaeth prednisone.

Roedd ei char wedi torri i lawr yn ardal Llaneirwg Caerdydd a thra ei bod yn aros am gymorth fe gyrhaeddodd yr heddlu a gofyn am sampl anadl.

Yn ôl adroddiad pwyllgor safonau, roedd wedi ceisio – a methu – gwneud y prawf ddwywaith.

Dywedodd Ms Passmore ar y pryd nad oedd wedi methu gwneud y prawf yn fwriadol a’i bod o dan bwysau ar ôl methu â defnyddio’i meddyginiaeth asthma yn gywir.


Source link

Views: 1

See also  Pembrokeshire's council tax premium on second homes worth £12.5m

Check Also

Cinio rhost yn y bore i ddisgyblion sy’n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, y byddai’n hoffi gweld …

‘Uproar’ when children from England want Welsh education in Powys

Powys councillor James Gibson-Watt told the BBC: “As a county that borders a significant number …

Sul y Tadau: Y tad a’i ddau fab o Fangor sy’n caru snwcer

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i’w tad am fod yn athro …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.