google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Talwrn yn croesawu tîm newydd i gystadlu

Advertisements

Dros y penwythnos fe wnaeth tîm newydd sbon gystadlu ar Y Talwrn a’i ornest gyntaf oedd yn erbyn tîm o gyn bencampwyr a phrifeirdd.

Nanw Maelor yw capten tîm O Bob Cwr, sy’n cynnwys Celt John, Brennig Davies a Mared Fflur Jones.

Mae enw’r tîm yn adlewyrchiad o’u lleoliad yn ddaearyddol gan fod y criw ifanc bellach ar wasgar ar draws Prydain oherwydd gwahanol swyddi.

Ym mis Ionawr, symudodd Celt i Lundain ar ôl derbyn swydd ym Mhrifysgol City St George’s. Mae Brennig yn Y Barri, Mared yng Nghaernarfon a Nanw yn Aberystwyth.

Er mai colli oedd hanes O Bob Cwr, roedd hi’n ornest agos ac roedd y criw newydd yn wynebu tîm Tir Iarll, sef yr aelodau profiadol Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Aneirin Karadog, Gwynfor Dafydd ac Emyr Davies.

Dywedodd Mared ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru:

“Erbyn hyn mae hi mor hawdd i griwiau o bob cwr o’r wlad a thu hwnt yn llythrennol ddod at ei gilydd.

“Dwi’n nabod Celt drwy gysylltiadau yn y Brifysgol a Mared a Brennig drwy gysylltiadau Pencerdd efo Llenyddiaeth Cymru a Barddas.

“Ma hwnna wedi bod yn rwydwaith grêt ac yn blatfform i ddechre tîm Talwrn,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Glasgow Commonwealth Games: Wales bid for 3x3 wheelchair basketball spots

Check Also

Roosevelt, Stalin a'r Cymro yn y canol

Bywyd a gyrfa hynod Joseph E. Davies, ffigwr pwysig o’r 1930au i’r 1950au BBC News …

Aidan Heslop: Ex-high diving world champion returns after back surgery

As Heslop began his preparations for 2025, the pain remained. He met with multiple physios …

Farmer finds 80 cannabis-filled bin bags dumped on his land

Rob Morgan said he had seen various items dumped on his land before, but this …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonrank | free link building tool | automated seo backlinks.