google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Prifardd a’r awdur toreithiog Eirwyn George wedi marw

Advertisements

Mae’r Prifardd Eirwyn George o Sir Benfro wedi marw yn 89 oed.

Roedd hefyd yn awdur degau o lyfrau – nifer ohonynt yn ymwneud â diwylliant Sir Benfro.

Fe enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 am ddilyniant o gerddi ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993 am farddoniaeth ar y testun ‘Llynnoedd’.

Roedd yn fardd gwlad poblogaidd ac yn enillydd cyson mewn eisteddfodau lleol.

Cafodd ei fagu yn ardal Tufton yng ngogledd Sir Benfro a threuliodd y rhan fwyaf o’i oes ym mhentref Maenclochog gerllaw.

Wedi cyfnod adref yn ffermio ar fferm ei rieni yng Nghastellhenri, aeth Eirwyn George i Goleg Harlech ac yna i Brifysgol Aberystwyth gan raddio mewn Cymraeg yn 1967.

Bu’n athro yn ei hen ysgol yn Arberth ac yna am gyfnod hwy yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych.

Roedd yn genedlaetholwr pybyr ac roedd ei ffydd Gristnogol hefyd yn bwysig iddo.

Ymhlith ei gyfrolau mae ‘Annibyniaeth y Bryniau’, ‘Hanes Eglwys Annibynnol Seilo, Tufton’ a ‘Cynnal y Fflam’ – cyfrol sy’n bwrw golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro.

Roedd yn hoff iawn o waith y bardd Waldo, ac ymhlith cyfrolau eraill Eirwyn George mae ‘Dilyn Waldo’ a ‘Blodeugerdd Waldo’ sef casgliad o gerddi teyrnged gan 40 o feirdd.

Ysgrifennodd hefyd yn helaeth am ei fro enedigol ac am hiwmor y Preseli.

Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant sef ‘Fel Hyn y Bu’.

Bu farw wedi gwaeledd byr fore Iau. Mae’n gadael ei wraig Maureen.


BBC News

Views: 4

See also  Y ddwy chwaer a ddaeth â Monet i Gymru

Check Also

Rob Mac wants to ‘earn’ place in Wrexham history

“Wow, this is incredible,” says Mac, upon entering the foyer of the new facility, which …

Party leaders gear up for debate in election where no-one can afford a slip-up

Leaders will be looking to sell themselves – but live TV debates are not without …

Family's plea to save dream Disney trip for girl, 6, left blind by brain tumour

Sienna was diagnosed with a tumour just weeks after getting the surprise trip for Christmas. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime