google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Y pleser o newid bywydau pobl drwy aduno teuluoedd’

Advertisements

Gweithiwr cymdeithasol yw Glesni felly mae’n rhoi cymorth gyda’r cyswllt a gyda’r emosiynau sy’ ynghlwm wrth y daith.

Ond mae dipyn o waith ditectif hefyd yn rhan o’r swydd gyda gwaith pori drwy cofnodion i gael mwy o wybodaeth: “Mae ffeil mabwysiadu yn help mawr ac yn starting point bob tro – mae fe’n rhoi gwybodaeth am pam oedd y person wedi cael ei mabwysiadu a beth oedd yn mynd ymlaen ar y pryd.

“Os dwi’n chwilio am fam geni dwi’n edrych os ydy hi erioed wedi priodi, edrych am y cyfeiriad ac electoral rolls. Dwi o hyd yn dechrau o’r amser gath y person ei mabwysiadu ac yn gweithio ymlaen. Y bwriad yw cael cyfeiriad i fod yn gallu ysgrifennu llythyr sensitif i’r fam geni.”

Weithiau mae pobl yn anhapus iawn i glywed gan Glesni: “Mae rhai pobl yn dweud bod nhw ddim ishe cael cyswllt ac yn grac bod nhw wedi cael eu ffeindio, yn enwedig os dyw nhw ddim wedi dweud wrth y teulu.

“Roedd mabwysiadu yn rhywbeth cyfrinachol – oedd plant yn cael eu mabwysiadu achos bod y fam wedi cael plentyn tu fas i briodas. Mae pobl wedi cadw’r gyfrinach ‘na drwy eu bywyd.”

Un o heriau pennaf gwaith Glesni yw pan mae angen dod o hyd i deuluoedd plentyn caffael (foundling).

Meddai am un o’r straeon mwyaf anhygoel mae hi wedi gweithio arni: “Dwi wedi helpu menyw yn ei 90au oedd wedi ei gadael ar drên cyn yr Ail Ryfel Byd.

“Drwy Ancestry DNA a drwy rhywun dwi’n gweithio gyda’n agos ‘naethon ni ddarganfod pwy fyddai ei mam hi wedi bod a gwneud cyswllt gyda’i hanner brawd a’i chwaer. Cafodd hi ei darganfod ar y trên yn 1926 ac mae hi yn 99 oed nawr ac mae hi dal i weld ei hanner brawd a’i chwaer.

“Roedd y fam wedi dweud wrth ei theulu bod hi wedi cael plentyn yn ystod y rhyfel ond fod y plentyn wedi marw. Gyda foundlings sym unrhyw wybodaeth am pwy yw’r fam na’r tad geni.

“Mae pethau fel Ancestry DNA wedi rhoi cyfle i bobl ffeindio mas pwy yw teulu geni nhw am y tro cyntaf erioed. Mae hwnna wedi newid pethau i lot o bobl.”

Ac mae’r gwaith yn teimlo’n arbennig o werth chweil ar y dyddiau hynny pan mae Glesni’n rhan o’r aduniad, meddai: “Mae fe’n amazing a dwi wastad yn meddwl am nature vs nurture.

“Dyna beth dwi wedi dysgu o’r swydd yma yw faint mor debyg mae rhai pobl er bod nhw ddim wedi cael eu magu gyda’i gilydd.

“Mae genetics yn anhygoel.”

Wrth i Glesni, sy’ ei hun yn fam i ferch a dau set o efeilliaid, helpu mwy a mwy o deuluoedd, mae wedi sylweddoli fod angen cymorth ar bobl wrth aduno gyda’i teulu.

O ganlyniad mae wedi cychwyn elusen llynedd o’r enw No Shame foundation sy’n cynnig therapi i bobl pan fo angen.

Meddai: “Mae’n gallu bod yn trawma mawr beth maen nhw wedi bod trwy. Dyw pobl ddim yn deall hynny a’n meddwl fod mabwysiadu yn rhywbeth positif o hyd.

“Mae lot o bobl yn stryglo gyda fe a’n stryglo i ddeall pam gaethon nhw eu mabwysiadu. Maen nhw’n cario hynny gyda nhw drwy eu bywyd nhw.

“Mae i wneud gyda hunaniaeth a ddim gwybod pwy yw nhw – mae cyswllt yn rhywbeth mawr i bobl a weithiau dyw’r aduniad ddim yn mynd fel oedden nhw wedi dychmygu. Mae’n bwysig fod cymorth ‘na i bobl.”


BBC News

See also  Japanese UK ambassador sings Welsh anthem

Check Also

Pam bod penglog ar grys rygbi newydd Caerdydd?

Mae hi’n dymor arbennig i Rygbi Caerdydd eleni wrth i’r clwb ddathlu 150 mlynedd. Er …

Councils ask not to be left out of new powers for Wales

Welsh councils should not be “left behind” when it comes to further devolution, Wales’ most …

Resolven mum’s plea to find missing son Robert Williams ahead of 40th birthday

The mother of a teenager who was last seen at a house party when he …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime