google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y gŵr a greodd ei ‘arian Cymreig’ ei hun

Y cam naturiol nesaf oedd i gynhyrchu rhyw fath o arian cyfred.

O fewn ychydig fisoedd, roedd Prif Trysorfa Cymru Cyf. yn rhyddhau archebion talu (payment orders) a oedd yn edrych ac yn gweithio’n debyg i sieciau. Roedd inc magnetig ar waelod y papurau, a oedd yn golygu eu bod yn ddilys; oherwydd profiad Mr Williams yn y diwydiant cyfrifiaduro, roedd yn gwybod fod hyn yn angenrheidiol er mwyn cael eu prosesu’n effeithlon.

Cysylltodd y Bwrdd Masnach; roedden nhw o’r diwedd wedi sylweddoli beth oedd cyfieithiad cywir Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig… Roedd y llythyr yn holi beth oedd cynlluniau Mr Williams ac os fyddai’n fodlon i newid enw’r cwmni.

Ymateb Richard Williams oedd nad oedd yn awyddus i newid yr enw, ac ei fod yn bwriadu, yn fuan iawn, i ryddhau mwy o nodau arian. Fe greodd y papurau yma yn syth ar ei deipiadur – 10/-, £1, £5 a £10 – gydag ysgrifen Cymraeg yn nodi bwriad Prif Trysorfa Cymru i dalu’r swm o arian ar gais.

Er mwyn bod yn gyfreithlon, roedd rhaid cael stamp treth dwy geiniog gan Fwrdd y Cyllid Gwladol (Board of Inland Revenue). Cafodd hyn ei wneud heb ffws o gwbl.

Ar y papurau cyntaf roedd testun dwyieithog yn datgan: ‘Y mae Prif Trysorfa Cymru Limited yn gaddo talu y cludwr pan yr hawlio y swm o X’. Roedden nhw wedi eu llofnodi gan R. Hugh Williams ac wedi eu dyddio 17 Mawrth 1969. Cawson nhw eu hargraffu yng Nghraig y Don, Llandudno.


Source link

Views: 1

See also  Prif weinidogion y DU a Chymru i drafod dyfodol Tata

Check Also

Football quiz: Can you rank Wales’ EFL clubs on their 2025-26 stats?

The 2025-26 EFL season is over for the four Welsh clubs after nine months of …

Hoard thief stabbed friend after stolen gold row

George Powell admits attacking Lewis Prosser at a caravan site in Paignton, Devon. BBC News …

Craig Harrison: There’s pressure every single day from myself to perform

Despite indifferent early season form – following on from the early exits in Europe – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.