google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Fari Lwyd a’r Hen Galan

Advertisements

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dymuno blwyddyn newydd dda ar 1 Ionawr.

Ond cyn 1752 a chyn i bobl ddilyn y calendr Gregori, roedd pobl yng Nghymru’n dathlu’r flwyddyn newydd ar 13 Ionawr.

Heddiw, mae rhai ardaloedd yng Nghymru fel Cwm Gwaun yn Sir Benfro a Llangynwyd ym Morgannwg yn parhau i ddathlu’r Hen Galan ar 13 Ionawr.

Byddai pobl yn mynd o gwmpas tai’r ardal yn canu er mwyn hel calennig, sef arian neu rodd.

Dyma pam fod llawer o noseithiau canu Plygain yn digwydd ar ddechrau Ionawr o hyd. Maen nhw’n arwain at yr Hen Galan.

Rhan arall o ddathlu’r Hen Galan oedd y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl gyda rhubanau lliwgar.

Roedd y penglog yn cael ei roi ar bolyn ac roedd person o dan lliain yn agor a chau’r geg.

Byddai’r Fari Lwyd yn cael ei thywys o gwmpas tai’r ardal a’r dafarn leol.

Yna, roedd rhaid gofyn am wahoddiad i ddod i mewn wrth ganu penillion.

Byddai perchennog y tŷ yn penderfynu agor y drws neu beidio. Roedd yn anlwcus gwrthod mynediad i’r Fari Lwyd.

Yn y tŷ wedyn byddai’r grŵp yn diddanu‘r teulu ac yn derbyn bwyd a diod.

Hen Galan hapus i chi!


BBC News

Views: 0

See also  Challenge Cup: Ospreys, Cardiff and Dragons eye qualification

Check Also

Y gantores Duffy i ddychwelyd i’w chyngerdd byw cyntaf ers dros 15 mlynedd.

Cafodd Aimée Anne Duffy ei magu yng Ngwynedd a Sir Benfro cyn iddi ddod yn …

Dyn wedi’i gyhuddo o drywanu bachgen 17 oed yn Y Barri

Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o anafu bwriadol yn dilyn …

Women’s World Cup qualifying: Wales aim to right their wrongs against the Czechs

Wilkinson reshuffled her starting side in Montenegro, with five changes to the team which began …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... 429 too many requests.