google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymry sy’n dal yn mynd i Ewro 2024

Roedd Kevin a Lynwen Williams o Gaernarfon wedi prynu tocynnau awyren a bwcio gwestai yn yr Almaen pan gafodd dyddiadau a lleoliadau gemau Euro 2024 eu cyhoeddi fis Chwefror.

Ond pan gollodd Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl fis Mawrth fe benderfynon nhw a’u ffrindiau lynu at eu cynlluniau. Am y bythefnos nesaf fe fyddan nhw’n dilyn y Pwyliaid i Hamburg, Berlin a Dortmund.

“Dwi’n hollol gutted bod Cymru ddim yna – a ninna’ wedi dod mor agos efo penalties. Roeddan ni mor agos – dyna sy’n brifo,” meddai Kevin Williams, sy’n gobeithio cael tocyn i wylio un gêm, ond fel arall am ddilyn y pêl-droed ar sgrin fawr y cefnogwyr.

“Fydd yna deimlad o be’ fasa wedi gallu bod, a dwi’n mynd â tri crys Cymru fi a bucket hat – ond nawn ni fwynhau.

“Dwi erioed wedi bod yn yr Almaen – un o’r ychydig lefydd yn Ewrop dwi heb fod – a dwi erioed wedi bod i’r Ewros. Roeddan ni yn Efrog Newydd a Florida yn 2016.

“Felly dwi’n rili edrych ymlaen.”


Source link

See also  Body recovered from Cardiff Bay sparks police investigation

Check Also

Andy Burnham says he is ‘open’ to devolving policing in Wales

Calls for the devolution of policing and criminal justice had been shared by Plaid Cymru …

I was told I should not be at the National Eisteddfod, says Reform MS

An MS has said she has faced criticism for attending the National Eisteddfod because she …

Cyn-heddwas yn y llys wedi’i gyhuddo o dreisio dynes tra ar ddyletswydd

Mae cyn-swyddog heddlu wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw difrifol tra …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime