google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymro â Syndrom Down sy’n ceisio gosod record byd

Mae Michael wedi bod yn treulio oriau bob dydd – gan gynnwys rhedeg 5km a 20km dros y penwythnos – yn paratoi ar gyfer y triathlon.

Ers cwblhau Marathon Llundain yn 2022, mae wedi rhedeg naw marathon a chwe hanner marathon, meddai.

“Mae’r profiad ges i yn Llundain wedi rhoi hyder i mi drio heriau gwahanol a gobeithio ysbrydoli pobl eraill sydd ag anableddau dysgu, yn ogystal â phawb arall, i gredu ynddyn nhw’u hunain,” meddai.

“Bysai gosod Record Byd Guinness newydd yn meddwl lot i fi achos fysa’n dangos bod gwaith caled a phenderfyniad yn gallu arwain at bethau arbennig.

“Dwi’n gobeithio y bydd o’n ysbrydoli pobl ag anableddau i drio torri fy record un diwrnod.”

Ychwanegodd ei fam: “Mae taith Michael am fwy na chroesi’r llinell derfyn mewn triathlon.

“Mae’n dangos ei fod yn bosib goresgyn rhwystrau a bod dysgu sgiliau newydd, be bynnag eich oed, a phenderfyniad yn gallu helpu rhywun i fynd heibio unrhyw gyfyngiadau.”


BBC News

See also  WRU invites regions and universities to bid for revamped women's teams

Check Also

Bred for success – why Backstedt can hit cycling's peaks

Zoe Backstedt won world time trial silver in Montreal aged just 21 and the multiple …

Helen Jenner yw arweinydd newydd Reform yng Nghymru

Pan oedd hi’n ifanc, roedd yn gantores mewn band o’r enw MEFS – talfyriad o …

Ryan Reynolds and Rob Mac buy Wrexham pub The Turf

“The Turf Tavern, as it was then, predates the club and records suggest that the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime