google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymro a fu bron yn Arlywydd

Mae Donald J. Trump wedi ei urddo fel Arlywydd yr Unol Daleithiau am yr ail dro, gyda seremoni fawr yn Washington yr wythnos yma. Ond ychydig dros ganrif yn ôl roedd gŵr o dras Cymreig yn agos iawn at gipio’r swydd.

Ganwyd Charles Evans Hughes — a oedd, yn ôl rhai, yn siaradwr Cymraeg rhugl — yn Efrog Newydd ar 11 Ebrill, 1862, i rieni Cymreig. Roedd ei dad yn weinidog Methodistaidd o Dredegar a symudodd i America yn 1855.

Wedi gyrfa lwyddiannus gyda’r gyfraith cafodd Hughes ei ethol fel Llywodraethwr dros dalaith Efrog Newydd.

Roedd Yr Athro Iwan Morgan yn arbenigwr ar Astudiaethau Americanaidd ac yn bennaeth Rhaglenni’r Unol Daleithiau yn Institute of the Americas yn UCL (University College London). Mae bellach wedi ymddeol.

“Mae Hughes yn ffigwr allweddol yn hanes gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn nhraean cyntaf yr 20fed ganrif,” meddai.

“Er nad oedd yn Arlywydd roedd yn Llywodraethwr ar dalaith Efrog Newydd, Ysgrifennydd Gwladol ac yn Chief Justice yr Unol Daleithiau, felly roedd e’n ffigwr enfawr yng ngwleidyddiaeth y wlad.”


BBC News

Advertisements

See also  Phosphates too high in more protected river systems

Check Also

Child poverty in Wales – Daughter slept on bed propped up by books

Ruscoe warned that anyone could find themselves in a crisis situation because of ill-health or …

Anglesey almshouses to be converted into ‘affordable’ homes for young people

A Grade-II listed building that once provided charitable housing is set to be converted into …

Chwareli llechi hanesyddol a safle atyniad Zip World ar werth

Mae’r safle’n rhan o ardal llechi Gwynedd gafodd ei rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime