google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y cerddor jazz Wyn Lodwick wedi marw yn 97 oed

Mae’r cerddor jazz adnabyddus o Lanelli, Wyn Lodwick wedi marw yn 97 oed.

Yn ystod gyrfa lwyddiannus a ddaeth â bri iddo ar draws y byd, fe wnaeth gyfarfod nifer o enwogion cerddoriaeth jazz, gan gynnwys Louis Armstrong.

Roedd yn chwarae’r clarinét a’r piano, ac am chwarter canrif fe berfformiodd sawl gwaith y flwyddyn gyda’r enwog Harlem Blues and Jazz Band.

Roedd yn gyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Cymru ac yn rhan o sefydlu Gŵyl Jazz Cymru a Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016 pan gafodd ei anrhydeddu â’r wisg werdd am ei gyfraniad i’r byd cerddoriaeth.


Source link

Advertisements

See also  The Traitors: 'Jessie yn dangos i'r byd fod atal dweud yn normal'

Check Also

Ystyried uno dwy feddygfa yn Sir Gâr ‘ar ôl bron i flwyddyn o ansicrwydd’

Yn ôl y bwrdd iechyd, byddai staffio’n cael ei reoli ar draws Meddygfa Minafon, meddygfa …

Nith Dolly Parton am ddysgu Cymraeg ar ôl canu gyda Bronwen Lewis

Mae Bronwen yn gobeithio y bydd y fersiwn ddwyieithog yma o Jolene yn ysbrydoli mwy …

Chwaer fach yn cwblhau Her y Tri Chopa i roi gobaith i’w brawd mawr

Yr anrheg Nadolig orau bosib i Rhiannedd, ei chwaer Melangell, a’u mam Beverley fyddai cael …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime