Yn ystod diflastod y cyfnod clo mi wnaeth brawd a chwaer o Dreffynnon gychwyn hobi newydd sef reidio beiciau BMX a beiciau mynydd. Erbyn hyn mae Morgan a Ffion wedi profi cryn lwyddiant yn y maes gan ennill nifer o wobrau yn rasio ac yn perfformio campau ar y beics.
Cafodd Morgan, sy’n 15 oed, ei enwi fel reidiwr newydd y flwyddyn 2023 gan MBUK (Mountain Biking UK), rhywbeth mae’n ystyried yn uchafbwynt ei yrfa beicio hyd yma, yn enwedig gan iddo ymddangos ar glawr cylchgrawn MBUK.
Ac er bod y ddau yn gystadleuol gyda’i gilydd maen nhw’n gytûn mai un peth sy’n gyfrifol am eu llwyddiant hyd yma, sef ymarfer. Mae’r ddau wedi dysgu eu sgiliau eu hunain ac maent yn ‘byw am feicio’ yn ôl eu mam Cora.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!