google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y bardd Nesta Wyn Jones wedi marw

61ab6680 1311 11f0 a8f7 59659b31eb3f.jpg

Mae’r bardd a’r llenor Nesta Wyn Jones wedi marw.

Yr hynaf o bedwar o blant, cafodd ei magu yng Nghwm Abergeirw, Gwynedd.

Mynychodd ysgol gynradd Rhydygorlan, Abergeirw, ac wedyn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, cyn mynd ymlaen i wneud gradd yn y Gymraeg ym Mangor.

Bu’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio ar gyfres Gorwelion ac yna gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth.

Cyhoeddodd sawl cyfrol, gan gynnwys Cannwyll yn Olau, Ffenest Ddu, a Dawns y Sêr ac ym 1987, enillodd wobr Cyngor y Celfyddydau am ei chyfrol o farddoniaeth, Rhwng Chwerthin a Chrio.

Yn weithgar yn ei chymuned yn Abergeirw, sefydlodd Gylch Ti a Fi yn Neuadd Rhydygorlan – ei hen ysgol gynradd – yng nghanol yr wythdegau, a bu’n ei arwain am flynyddoedd lawer wedi hynny.

Bu hefyd yn cynnal dosbarth nos i ddysgu Cymraeg i oedolion, ac yn gwahodd mewnfudwyr yr ardal i ymuno, i ddysgu’r iaith ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.

Byddai’n eu hannog nhw a phobl ifanc yr ardal i gymryd rhan mewn gweithgareddau’r gymdeithas yn gyson, yn enwedig cystadlaethau Cyfarfod Bach Abergeirw.

Priododd ei diweddar ŵr, Gwilym, ym 1982 a ganwyd ei merch Annest Gwilym ym 1983 a’i wyres yn 2015.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd y bardd Annes Glyn: “Am newyddion trist! Fe fu gwaith Nesta’n ysbrydoliaeth cynnar i mi ac roeddwn i wrth fy modd efo’i chynildeb crefftus hi fel bardd ar draws y blynyddoedd.

“Yn parchu ei barn hi fel beirniad hefyd. Colled enfawr.”


BBC News

Advertisements

See also  Olympic Games 2024: Jade Jones bids for third taekwondo gold

Check Also

Hayden Mullins deserves more credit at Newport County – Lee Jenkins

Last year, those setbacks often led to heads dropping. Mullins felt his side could have …

Melker Widell the talk of Swansea City’s hotline to Sweden boss Graham Potter

“The ticket to play here is doing the counter-press,” Widell says. “If you do the …

Storm Austen: Cannoedd heb drydan a rhybuddion melyn mewn grym

Mae cannoedd o bobl wedi colli trydan yn eu tai ddydd Gwener wrth i wyntoedd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime