google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 21 2026

URC wedi gwneud colled o £7.5m er digwyddiadau Stadiwm Principality

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cofnodi colled o £7.5m yn ystod y 12 mis hyd Ebrill eleni, er gwaethaf croesawu sawl digwyddiad mawr i Stadiwm Principality.

Fe gododd trosiant y corff llywodraethu am yr ail flwyddyn yn olynol, i £102.7m, gyda £4.7m ychwanegol yn dod o gemau a digwyddiadau fel cyngherddau Taylor Swift a Bruce Springsteen.

Ni chafodd gemau rhyngwladol yn yr hydref eu cynnal yng Nghymru yn 2023 oherwydd Cwpan y Byd, ond fe gafodd gemau cyfeillgar yr haf, gemau’r Barbariaid a pherfformiadau artistiaid fel Pink a’r Foo Fighters eu cynnal i Gaerdydd.

Dywed URC fod effaith barhaus Covid, chwyddiant uchel, costau uwch o ran Cwpan y Byd y dynion a buddsoddiad mewn rygbi merched wedi cynyddu costau o £67m i £75.1m.

Ar ôl cofnodi elw o £3m yn 2022, mae URC bellach wedi gweld colledion yn cynyddu o £4.8m i £7.5m ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf.

Daw’r canlyniadau ariannol wedi cyfnod cythryblus i rygbi Cymru, ar ac oddi ar y cae.


Source link

Advertisements

See also  Bryan Adams gets therapy dog visit before gig

Check Also

Gohirio newidiadau treth y cyngor yng Nghymru tan 2032

Ar ran Reform, ymatebodd Cai Parry-Jones AS: “Er ein bod yn croesawu unrhyw oedi cyn …

Welsh council tax revaluation to be delayed to 2032

Wales’ finance minister has said the Welsh government intends to delay a revaluation of homes …

Jane Dodds i gamu i lawr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Dywedodd Ms Dodds, “yn dilyn etholiad mis Mai, rwyf wedi meddwl yn ddwys am yr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime