google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Undeb athrawon yn poeni am blant yn defnyddio delweddau deepfake

Advertisements

Mewn arolwg diweddar gan undeb ASCL dywedodd dros chwarter yr athrawon a holwyd ar draws y DU bod disgyblion wedi eu recordio heb ganiatâd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd nifer o ddisgyblion hefyd wedi recordio ei gilydd heb ganiatâd.

Dywedodd tri o bob 10 athro eu bod wedi gweld disgyblion yn cael mynediad at bornograffi neu gynnwys treisgar yn ystod amser ysgol.

Mae natur rhai o’r delweddau hyn yn peri pryder sylweddol, yn ôl UCAC.

“Ma’r arfer o greu delweddau a newid y delweddau yna yn reit gyffredin erbyn hyn ond ma’ ‘na bryder mawr yn codi bod yna ddelweddau o natur rywiol er enghraifft,” ychwanegodd Ioan Rhys Jones.

“Mae creu delweddau ar gynnydd, ac mae hyn wrth gwrs yn peri trafferth mawr pan ma’r delweddau yna yn ddelweddau o bobl eraill, yn ddelweddau amheus.

“Ma’ angen i ni sicrhau bod pob athro a phob ysgol yn rhoi hyfforddiant yn ei le i’r disgyblion ac i’r staff, a ma’ rhaid i ni hefyd sicrhau bod pob un o fewn yr ysgol yn gallu gweld be’ sy’n ddelwedd AI.”


BBC News

See also  Return of Blackweir summer concerts met with mixed reaction

Check Also

Cymru Premier: Third win on spin for Connah’s Quay

Connah’s Quay Nomads enjoyed their third successive win in Cymru Premier by beating new boys …

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime