google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tyfu llysiau ar Ynys Môn ers 75 mlynedd

Advertisements

Er mwyn deall yn union ble ddechreuodd y diddordeb mewn garddio mae’n rhaid mynd yn ôl i 1950, ac i Langristiolus, sef pentref yng nghanol Ynys Môn ble fagwyd Medwyn.

“Roedd fy nhad yn was fferm ac yn garddio yn ei amser sbâr.

“Roedd Dydd Gwener y Groglith yn ddiwrnod mawr yn ein tŷ ni, dyna’r adeg lle roedden ni’n plannu tatws newydd.

“Roedd Dad yn dallt y tir ac roedd o’n dangos mewn sioeau lleol ym Mrynsiecyn, Rhosneigr, Talwrn lle oedd ‘na bentwr o sioeau bach.

“Bryd hynny roedd o’n cael ei alw’n ‘ddyn y moron hir, roedd o’n ennill yn aml efo’i foron hir,” meddai.

Dros y blynyddoedd wedyn, fe dyfodd diddordeb Medwyn ac fe ddechreuodd gwneud ei ymchwil ei hun am sut i dyfu llysiau.

“Roedd mynd i Sioe Amwythig tua 24 oed yn gam mawr ymlaen i mi.

“Dwi’n cofio cerdded fewn i babell fawr yno a gweld y casgliadau o flodfresych a chael ogla’r blodau a’r gwair, ‘nath hynny godi awydd i mi drio neud ru’n peth,” meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Eluned Morgan rejects Donald Trump state banquet invite

Check Also

Soldiers praised for helping crews tackle wildfires in south Wales

In south Wales, about 14 separate fires were being tackled by crews on Sunday. Mid …

Mam o Gaernarfon: 'Yr haf yn ddrud a theimlo'n euog methu fforddio petha'

Wrth i arolwg Achub y Plant Cymru ddangos bod gwyliau’r haf yn anodd i fwy …

Nic Parry: ‘Gwarthus’ nad oes carchar i fenywod yng Nghymru

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod Llywodraeth y DU wedi etifeddu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfx kit silver. hostrite hosting news updates.