google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trywanu Rhydaman: Athrawon wedi credu eu bod am farw

Advertisements

Yn ddiweddarach fe glywodd y rheithgor gan yr athrawon Stephen Hagget a Darrell Campbell, oedd ar ddyletswydd ar y pryd.

Esboniodd pennaeth cynorthwyol yr ysgol, Mr Hagget, iddo glywed fod disgyblion yn ymladd yn ystod yr amser egwyl dan sylw.

Gwelodd y diffynnydd yn wynebu’r wal ar iard yr ysgol ac yn dal cyllell.

“Wnes i drio tawelu hi,” esboniodd i’r rheithgor.

“Roedd ganddi edrychiad gwag ar ei hwyneb, golwg dwys iawn.”

Dywedodd i’r ferch weiddi: “Dwi’n mynd i ff***** lladd hi os dwi’n gweld hi – Mrs Elias.”

Dywedodd Mr Campbell wrth y rheithgor ei fod yn gallu gweld bod “rhywbeth o’i le” ar iard yr ysgol.

Esboniodd i’r diffynnydd weiddi, “Dwi’n mynd i dy f*****g llad di, b***h”, wrth redeg at ddisgybl a’i thrywanu.

Clywodd y llys i Mr Campbell rhoi’r ferch mewn “headlock” i’w hatal rhag symud.

“Wnes i ddweud wrthi, ‘Mae hi drosodd’,” meddai.


BBC News

See also  Caerphilly by-election candidates confirmed

Check Also

Nant Ffrancon: £1m i achub ardal sydd ‘wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol’

Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol, ffermwyr tenant a gwirfoddolwyr, bydd dros 1,635 …

150 mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol meddygfa ‘hanfodol’ i bentref

Dywedodd Ann Klages, clerc y cyngor cymuned, ei bod hi wrth ei bodd gyda nifer …

Y dyn a gafodd bythefnos i fyw sydd bellach yn helpu miloedd i sobri

Ar ôl blynyddoedd o fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau presgripsiwn, mae Chris Rees …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime