google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tro pedol budd-daliadau Llywodraeth y DU ‘ddim yn ddigon’

5376d270 533a 11f0 8485 7bd50fa63665.jpg

Advertisements

Yn ôl Rhys Miles Thomas o bentref Alma ger Caerfyrddin, sy’n derbyn taliadau PIP oherwydd ei gyflwr MS, mae nifer o gwestiynau am y cynlluniau yn parhau.

“Dwi’n croesawu bod ‘na dro pedol, ond i fod yn onest wi’n poeni am y bobl sy’n dod ar ôl fi,” meddai ar Dros Frecwast.

“Y peth am PIP yw bod angen trial amdano fe bob tair blynedd, felly be’ sy’n digwydd i’r bobl sydd ar PIP ac wedyn yn gorfod ail trial amdano fe – ydyn nhw’n cael eu trin fel claimants newydd? Be sy’n digwydd?

“Mae’n un o’r pethau ‘na sy’n neud i ti deimlo’n wael, ti ddim eisiau gorfod dibynnu ar bobl eraill… ond y pwynt am y taliadau PIP yw mai taliadau yw rhain i helpu chi fyw yn annibynnol.

“Mae mor anodd i gael yr arian, mae’n arian grêt ond dyw e ddim yn ormodol. Os chi ar standard daily living chi’n cael £3,500 y flwyddyn i helpu.”

Ychwanegodd fod y broses o lenwi’r ffurflen yn “ofnadwy” a’i fod yn poeni am y peth am “ryw chwe mis” cyn gwneud hynny,

“Unwaith chi’n gwneud y ffurflen chi’n teimlo’n waeth, achos mae’n rhaid i chi wynebu realedd y cwestiynau – pethau fel ‘o mae’n rhaid i chi gael cymorth i dorri lan bwyd chi, neu i ‘neud bwyd chi’.

“Ma’ fe just yn neud i chi deimlo’n waeth fel person anabl na fydde chi heb wneud e.”


BBC News

Views: 1

See also  Religion: Calls for Powys school probe for promoting creationism

Check Also

Michael Sheen stars in UFO comedy after spooky sighting in Port Talbot

When Sheen returned to the area with his family in 1977, having lived for a …

Junior World Championship: Wales U20’s Steff Emanuel ready for next step at Cardiff

Emanuel has featured in every Wales Under-20s fixture this season and lines up in midfield …

Logan Mwangi: Mam a laddodd ei mab, 5, yn gobeithio am adolygiad o’i hachos

Yn dilyn gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Tony Thompson wrth BBC Cymru bod Williamson wedi cysylltu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq liquid. upsc indian forest service (ifs) notification out 2024, check exam date, how to apply. elfbar elfx kit silver blue.