google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tri dyn yn pledio’n ddieuog i herwgipio yn Llanybydder

Mae tri dyn wedi pledio’n ddieuog i herwgipio yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ymddangosodd Mohammad Comrie, 22, o Leeds, Faiz Shah, 22, o Bradford, a Elijah Ogunnubi-Sime, 20, o Wallington, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Mae’r tri hefyd yn gwadu cyhuddiadau o glwyfo’n fwriadol a chlwyfo’n anghyfreithlon yn dilyn digwyddiad honedig ar 26 Awst.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i eiddo yn ardal Brynteg, Llanybydder yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn oedd wedi teithio i’r ardal.

Cafodd person ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau, ond mae bellach wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth.

Cafodd Comrie, Shah a Ogunnubi-Sime eu harestio ar yr un diwrnod, ac ers hynny, maen nhw wedi’u cadw yn nalfa’r heddlu.

Mae Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru (CTPW) wedi bod yn cynorthwyo swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gyda’r ymchwiliad.

Bydd y tri yn aros yn y ddalfa tan achos llys sydd wedi’i bennu ym mis Chwefror 2025.


Source link

Views: 1

See also  Welsh rugby: Talking points as Welsh rugby welcomes return of URC

Check Also

Wales weather: Met Office red weather warning for heat shuts 500 schools

A “heat emergency” has closed more than 500 schools in Wales as the country prepares …

Champions League qualifying: The New Saints’ Leo Smith on injury, recovery and return

The New Saints’ Leo Smith did not initially fear the worst when he went down …

Esyllt Sears: ‘Falch i roi llais i famau sengl’

Wrth drafod ei sefyllfa a’r heriau sy’n codi fel mam sengl ar y podlediad – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... heavy equipment transport kern ca.