google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tri athro wedi’u hanafu gan gyn-ddisgybl – heddlu

Cafodd tri athro ysgol uwchradd eu hanafu mewn ymosodiad honedig gan gyn-ddisgybl yn ei arddegau.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ddigwyddiad yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ddydd Mawrth.

Cafodd dau athro eu trin am fân anafiadau, ac fe aeth athro arall i’r ysbyty fel rhagofal, meddai’r llu.

Fe achosodd y cyn-ddisgybl ddifrod i eiddo’r ysgol ac i geir, meddai’r heddlu, ac fe aeth yr ysgol i “lockdown” am gyfnod.

Dywedodd Cyngor Casnewydd fod y digwyddiad wedi “peri gofid mawr i staff a disgyblion, yn enwedig y rhai a welodd y digwyddiad”.

Dywedodd llefarydd nad oedd tystiolaeth fod cyllell wedi’i defnyddio, ac na chafodd unrhyw arf ei ddefnyddio yn y digwyddiad.

“Rydym yn cymryd diogelwch ysgolion o ddifrif ac, mae gennym ystod o fesurau ar waith, ond mae adolygiad yn cael ei gynnal i weld a ellid cymryd unrhyw ragofalon pellach,” meddai.

Mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.


BBC News

Advertisements

See also  Follow results from south Wales

Check Also

Cwis: Calan Gaeaf y Cymry

Beth wyddoch chi am yr hen draddodiadau roedden ni’n eu dilyn yr adeg yma o’r …

Pontypool boy to go to US for cancer vaccine after drug withdrawn

Friends launched a campaign to raise £250,000 and reached their target in 12 weeks, with …

Ballet Cymru marks 40 years of dance in Newport

After some initial backing from the Arts Council of Wales, he said Ballet Cymru went …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime