google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trafferth recriwtio staff yn effeithio ar ansawdd addysg – Estyn

Advertisements

Presenoldeb yw un o’r heriau mawr eraill sy’n wynebu’r drefn addysg, yn enwedig i blant o gefndiroedd mwy difreintiedig ac yn y sector uwchradd, meddai’r adroddiad

“Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae’r gyfradd presenoldeb uwchradd wedi cynyddu 0.5% yn unig,” dywedodd Estyn.

“Ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig.”

Er bod y ddarpariaeth llesiant a diogelu yn gryf ar draws ysgolion, mae Estyn yn dweud nad oes digon o dystiolaeth o gysondeb o ran addysgu ansawdd uchel, bod yna ddiffyg cysondeb o ran dealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd a gwendidau wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd uwch.

Dywedodd y prif arolygydd Owen Evans: “Rydym yn dra ymwybodol o’r pwysau a’r heriau y mae darparwyr addysg yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ond mae angen gwella hunanwerthuso mewn ysgolion a darparwyr eraill i gryfhau’r system.

“Mae angen arweinwyr cryf arnom i ysgogi’r gwelliant hwn, gan fod methiant i wneud hynny’n atal cynnydd gormod o ddysgwyr.”


BBC News

See also  Florian Bianchini: Future doubt as forward left out of Swansea City tour squad

Check Also

Cyhuddo dyn 31 oed ar ôl i dacsi gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55

Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o sawl trosedd ar ôl i’r heddlu …

Teulu’n croesawu adolygiad wedi marwolaeth menyw mewn gwrthdrawiad

Yn 2019, cafwyd ffrind Jay Bayliss, Neil Brooks, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n …

‘Dwi’m yn gweld ni’n ‘gored flwyddyn nesa’ – busnesau Pwllheli’n galw am gymorth

“Mae gen i filiau i dalu ac yn anffodus tydy’r siop yma ddim yn ‘neud …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime