google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Traddodiadau lleuad y cynhaeaf – BBC Cymru Fyw

Roedd gan wahanol ardaloedd o Gymru draddodiadau amrywiol hefyd.

Gan fanteisio ar loer lachar Lleuad y Cynhaeaf, ar y nos Sadwrn agosaf at y lleuad lawn, yn Nyffryn Peris a’r cyffiniau roedd hi’n arfer poblogaidd gan drigolion yr ardal i gerdded i fyny’r Wyddfa i weld yr haul yn codi.

Ym mis Medi 1906, roedd cannoedd o drigolion bro’r Wyddfa wedi cerdded i’r copa i weld y wawr. Yn eu plith oedd Robert Owen Roberts, chwarelwr ifanc o Lanberis.

Wrth ddychwelyd, defnyddiodd Roberts ei gaib i sglefrio i lawr rheilffordd yr Wyddfa; yn anffodus, fe fethodd droad a tharo ei ben ar graig gan dorri ei benglog. Derbyniodd driniaeth yn Ysbyty Chwarel Dinorwig, ac wedi pum wythnos fel claf mewnol cafodd ei ryddhau yn holliach unwaith eto.


BBC News

Advertisements

See also  'I have to use savings to afford to use university laundrette'

Check Also

Nith Dolly Parton am ddysgu Cymraeg ar ôl canu gyda Bronwen Lewis

Mae Bronwen yn gobeithio y bydd y fersiwn ddwyieithog yma o Jolene yn ysbrydoli mwy …

Chwaer fach yn cwblhau Her y Tri Chopa i roi gobaith i’w brawd mawr

Yr anrheg Nadolig orau bosib i Rhiannedd, ei chwaer Melangell, a’u mam Beverley fyddai cael …

Cwis: Albyms gorau Cymru – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime