google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Torcalon’ Wynne Evans wedi’r ymateb i ‘jôc fewnol’ Strictly

Fe fu Evans yn trafod y sefyllfa gyda Radio Wales Breakfast ddydd Llun cyn cyflwyno ei raglen foreol am 09:00.

“Rwy’ wedi bod yn hollol dorcalonnus oherwydd y pethau sydd wedi eu hysgrifennu amdana’i yn y diwrnod diwethaf,” dywedodd. “Dyw e ddim yn neis i fyw drwy’r amser yna.

“Mae Katya a finnau yn agos iawn, iawn a ni’n ffrindiau gwirioneddol dda. Nos Sadwrn wnaethon ni jôc wirion – roedd yn jôc wirion a aeth o chwith.

“Roedden ni’n meddwl bod e’n ddoniol. Doedd e ddim yn ddoniol [ond] roedd yn cael ei gamddehongli’n llwyr.

“Mae popeth ar socials Katya. Mae hi wedi trafod y peth, mae hi wedi egluro mai jôc oedd e, bod hi heb bechu o gwbl, bod hi ddim yn teimlo’n anghyfforddus.

“Mae gyda ni gyfeillgarwch wych – cyfeillgarwch glòs – a mae’n flin ‘da fi os gafodd unrhyw un ei bechu ganddo ond dim ond jôc oedd e a dyna oll sydd iddo.

“S’dim stori fawr yna a rwy’n teimlo’n rhyfedd yn ymddiheuro oherwydd rwy’n teimlo bo’ fi heb wneud dim byd mewn gwirionedd.”


Source link

Advertisements

See also  Dynes yn ddieuog o berchen ar gi XL Bully a laddodd tad ei chymar

Check Also

Labour calls for M4 relief road, seven years after axing the plan

Asked what he would say to accusations of a U-turn, Skates added: “Well, it’s a …

VisionQuest fans to meet Marvel villain from Wales, with Cardiff accent

Morais recalled being like “a rabbit in the headlights” surrounded by all the stars of …

Tro pedol ar gynllun i ddileu statws eglwysig Ysgol Cilgerran

Mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Iau, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime