google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tinitws: Galw am fwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n byw â’r cyflwr

Advertisements

Wrth i adroddiad ddangos bod rhai yn gorfod aros hyd at dair blynedd i gael apwyntiad am y cyflwr tinitws mae ‘na alw am fwy o gefnogaeth i ddioddefwyr.

Roedd Emyr Williams o Nercwys, Sir y Fflint yn blentyn ysgol pan glywodd o synau rhyfedd yn ei glustiau am y tro cyntaf.

“Dwi’n cofio disgwyl bws adra o’r ysgol a troi rownd a deud wrth fy nghefnder ar y pryd ‘be ydi’r sŵn whistlo yna?’ a hwnnw wedyn yn meddwl mod i yn honco bost,” meddai.

“O’n i’n dechra meddwl – be sy’n digwydd i mi?”

Mae Emyr sy’n 62 oed ac yn gweithio ym myd cyfrifiaduron yn clywed sŵn mwmian neu gloch fach drwy’r amser yn ei glustiau.

Yn syml, mae tinitws yn sŵn cyson sy’n canu yn y glust er nad oes dim o’ch cwmpas yn gwneud sŵn.

Er ei fod wedi gorfod byw efo’r cyflwr am flynyddoedd mae o’n disgrifio ei hun “yn lwcus” oherwydd fod nifer yn ei chael hi’n anodd iawn ymdopi.

“Dwi’n nabod un neu ddau o bobol sydd wedi cael amser caled iawn, wedi cael iselder ofnadwy a ddim yn gwybod be’ i neud.

“Mae o’n gallu bod yn galed iawn.”

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i wella gwasanaethau awdioleg gan ddarparu £1.9m o gyllid blynyddol ar gyfer gwasanaethau oedolion a £1.1m ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc.


BBC News

Views: 0

See also  Council proposal to build bridge over Aberystwyth school prompts safety fears

Check Also

Dyn wedi’i ganfod yn ddiymateb yn y môr yng Ngwynedd – cwest

Mae cwest wedi’i agor a’i ohirio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn a gafodd ei ganfod …

Cynghori pobl i aros dan do ar ôl tân yng ngwaith dur Tata

Roedd mwg trwchus i’w weld yn codi o’r safle, ac yn ôl Kellie Evans oedd …

Ai trefn debyg i’r Alpau yw’r ateb i broblemau parcio Eryri?

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod hwythau’n cydweithio gyda phartneriaid i “ddatblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus cyfleus, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"panduan lengkap harga paving block langsung pabrik 2026 : hemat biaya dengan kualitas standar industri » thetaindomarga sm".