google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Teyrngedau i Huw Roberts – ‘un o gewri’ byd gwerin Cymru

Dywedodd y cerddor Tudur Huws Jones, oedd yn ffrind agos iddo, fod “Huw yn danbaid dros Gymru, ein hiaith a’n traddodiadau gwerin”.

“Mi wnaeth gymaint dros gerddoriaeth werin, dawnsio gwerin, gwisgoedd traddodiadol Cymru, y ffidil a’r delyn deires, trwy waith ymchwil diflino.

“Os oedd unrhyw un yn haeddu doethuriaeth er anrhydedd, Huw oedd hwnnw.

“Bron yn ddiffael, pan fyddem yn cwrdd, roedd ganddo ryw brosiect neu syniad ar y gweill, neu byddai wedi dod ar draws alaw ‘newydd’ oedd wedi bod yn cuddio mewn hen lawysgrif yn rhywle – byddai cyffro a’r brwdfrydedd yn amlwg wrth iddo adrodd yr hanes.

“Doedd ‘na neb tebyg iddo mewn sesiwn anffurfiol. Gallai Huw gynnal sesiwn am oriau, heb ailadrodd yr un alaw.

“Dros y blynyddoedd bu’n lledaenu’r neges mewn sawl gwlad ar draws y byd.

“Mae Cymru wedi colli llysgennad yn y maes, heb os. Cwsg yn dawel ‘rhen ffrind.”

Mae’n gadael ei wraig Bethan a’i blant Sion a Megan.


Source link

Advertisements

See also  Gavin & Stacey: I've seen the finale - but can't tell you what happens

Check Also

Police failings in friends’ death on Yr Wyddfa could risk lives, coroner warns

More people could die on remote mountains unless police do a better job in responding …

Gweithiwr oedd yn gamblo ar-lein wedi camddefnyddio £7,000 o arian cyngor

Clywodd y llys fod terfyn credyd cerdyn Deakin ond yn £1, gan bod ei gwaith …

Gianni Infantino: FAW chief Noel Mooney renews call for Fifa president to step down

Infantino faced calls to stand down over the controversial plan – known as the Fifa …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime