google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged teulu i ddyn, 64, fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon

Advertisements

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Geraint Jones, 64, yn dilyn gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys fan, ger Y Bontnewydd, Caernarfon tua 20:30 nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Rydym wedi ein llorio o golli gŵr, tad a thaid annwyl.

“Fel teulu, fe hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys a phawb fu ynghlwm wrth geisio helpu Geraint ar nos Sul, 9 Tachwedd.

“Fe hoffwn hefyd ddiolch i bawb am yr holl negeseuon o gariad a chefnogaeth yn ystod y cyfnod trist hwn.

“Mae Geraint yn gadael ei wraig, Mary, ei feibion, Richard a Patrick, ei wyres Ella a’i wyrion Leo ac Isaac.”

Ddydd Llun fe wnaeth yr heddlu apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Maen nhw’n enwedig eisiau siarad ag unrhyw un a welodd ddyn yn cerdded ar ochr y ffordd osgoi cyn y digwyddiad.


BBC News

See also  Cymro yn arwain Pencampwriaeth Ralïo'r Byd gydag un ras yn weddill

Check Also

County Championship: Ian Holland helps Leicestershire fight back against Glamorgan

Rothesay County Championship, Division One, Uptonsteel Grace Road, Leicester (day two) Leicestershire 151: Holland 23; …

Croatian refugee tracks down Mold siblings who sent him a gift 33 years ago

A man forced to flee war in Croatia as a child has used social media …

Six men deny child abuse and rape charges

Six men have denied historical offences relating to alleged sexual abuse and rape of children …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime