google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Teyrnged i ddynes gafodd ei tharo gan lori ailgylchu yn Llandudno

Advertisements

Meddai’r neges: “Bydd llawer ohonoch wedi gweld yr adroddiad am farwolaeth menyw leol 89 oed a gafodd ei tharo gan lori ailgylchu.

“Mae’n ddrwg gennym nodi mai’r dioddefwr oedd Daphne Stallard, cynorthwy-ydd rheolaidd yn yr Eglwys Iau.”

Mewn datganiad, mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau bod cerbyd ailgylchu wedi bod yn rhan o wrthdrawiad angheuol yn Llandudno fore Llun.

Ychwanegodd y datganiad bod y cyngor yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau’r ddynes fu farw yn ystod y cyfnod anodd hwn a bod yr awdurdod yn cynorthwyo ymholiadau’r heddlu.

Wrth apelio am dystion, dywedodd y Sarjant Duncan Logan o Heddlu’r Gogledd fod perthnasau agosaf y ddynes wedi cael gwybod a’u bod yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn fawr gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn,” ychwanegodd.


BBC News

See also  Wales' papers: 'From roofer to facing All Blacks' and AI job boom promise

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime