google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged i ddyn ifanc ‘gofalgar’ o Bwllheli fu farw mewn gwrthdrawiad

Advertisements

Mae teulu dyn 20 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llŷn wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Elis Alan Ogilvy-Bardsley ei ddisgrifio fel “mab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol”.

Bu farw Elis, o Bwllheli, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Llanaelhaearn a’r Ffôr, toc wedi 22:00 nos Sadwrn.

Cafodd Heddlu’r Gogledd a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i’r gwrthdrawiad oedd yn cynnwys sawl cerbyd.

Fe gafodd pedwar ambiwlans eu hanfon i’r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Elis yn y fan a’r lle.

“‘Da ni wedi torri’n calonnau bod Elis wedi cael ei gymryd oddi wrthon ni mewn ffordd mor drychinebus,” meddai ei deulu.

“Mae ein bywydau ni fel teulu wedi cael eu newid am byth.”


BBC News

Views: 1

See also  Wrexham: Blind man wins £18,500 after being sacked by Village Bakery

Check Also

Pair help grateful runner to marathon PB after collapse 300 yards from finish

Gabriella Booth says her “legs went” as she neared the line but still finished in …

Ed Davey backs Welsh Lib Dem leader Jane Dodds after rift

Sir Ed previously said Dodds should reflect on her position, and recently campaigned in Wales …

Teen trip to London raised alarm over sexual exploitation gang – court

Four men are accused of trafficking a 15-year-old girl and supplying cannabis for sexual services. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
I finally found john’s secret phone number – and you won’t believe how i did it !. Portofino playa benidorm.