google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Teyrnged i beilot fu farw mewn damwain paragleidio yn Llanberis

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y capteiniaid grŵp Peter Ward a Gez Currie o RAF Y Fali eu bod “wedi’n llorio gan golled ein cydweithiwr a’n ffrind”.

“Roedd Geoff yn hyfforddwr ac yn beilot gwych.

“Mae ei etifeddiaeth yn parhau trwy’r nifer o beilotiaid yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Frenhinol a gafodd ei help i hyfforddi, sydd bellach yn amddiffyn ein cenedl gartref a thramor.

“Ond yn fwy na dim, roedd Geoff yn fab, brawd a phartner.

“Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf a diffuant i’w deulu yn ystod yr amser anodd yma.

“Ni fyddwn ni, ei deulu gwaith, byth yn caniatáu i’w atgof a’i etifeddiaeth anhygoel gael eu hanghofio.”

Dywedodd RAF Y Fali ei fod wedi “marw wrth wneud rhywbeth yr oedd yn angerddol amdano mewn bywyd – hedfan”.

Ychwanegodd llefarydd: “Roedd Geoff yn hyfforddwr hedfan uchel ei barch yn RAF Y Fali, yn cael ei barchu’n fawr gan ei gydweithwyr a’r myfyrwyr yr oedd yn eu dysgu.”


BBC News

Advertisements

See also  Flintshire lorry driver Christopher Tribe sentenced for horror crash

Check Also

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime