google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged gan deulu dyn fu farw ar yr A465 ac arestio tri arall

Ddc01210 4229 11f0 835b 310c7b938e84.jpg

Advertisements

Mae teulu dyn 20 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A465 wedi talu teyrnged i “enaid fwyaf caredig”.

Bu farw Ethan Powell, o Frynmawr, yn y fan a’r lle am tua 04:50 ar 31 Mai, ar ôl i feic cwad gael ei ddarganfod wedi troi drosodd ar y ffordd tua’r gorllewin.

Cafodd dau ddyn a gafodd eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad – un ohonyn nhw ar ar amheuaeth o lofruddio – eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Ers hynny mae Heddlu Gwent wedi arestio tri o bobl eraill mewn cysylltiad â’r ymchwiliad, sy’n golygu bod pum person wedi cael eu harestio i gyd.

Cafodd dyn 43 oed o Dredegar a dyn 34 oed o Bontypridd eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Cafodd dyn 41 oed o Ferthyr Tudful ei arestio hefyd ar yr un amheuon a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i’r ymchwiliad barhau, ond cafodd ei alw yn ôl i’r carchar mewn cysylltiad â mater arall.

Mae’r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.


BBC News

Views: 1

See also  Cwis: Diwrnod π - BBC Cymru Fyw

Check Also

Evardi Boshoff: Ospreys centre signs new deal

South African centre Evardi Boshoff has signed a new deal to remain at Ospreys. Boshoff, …

‘Mae e’ gyd yn llwch nawr’: Ffermwr wedi tanau yng Ngheredigion

“Ni wedi bod o gwmpas ers rhyw saith cenhedlaeth ar y fferm ac ma’r dyddiaduron …

Eight-year-old among paddleboarders rescued at sea

An eight year-old and two teenagers are among paddleboarders rescued after being blown offshore. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. cassinox hızlı giriş rehberi.