google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Teimlo yn ynysig’ ar ôl bod heb wifi a theledu am bron i chwe wythnos

Advertisements

Collodd eu cymydog, Christine Conway, gysylltiad ddechrau mis Rhagfyr hefyd.

Dywedodd Ms Conway fod Openreach “yn dal i ddweud ‘o, bydd e nôl yr wythnos nesaf’.

“Roedd gyda ni ddyddiad ar gyfer 23 Rhagfyr, ac yna cafodd hwnnw ei ohirio i 2 Ionawr. Wedyn gafodd ei symud 9 Ionawr,” meddai.

“Hoffwn ddweud y byddai’n ddefnyddiol pe baen nhw’n gallu cadw mewn cysylltiad â ni a dweud yn union beth maen nhw’n bwriadu ei wneud, a phryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans: “Mae’n eironig bod y rhyngrwyd yno i wella cyfathrebu a gwybodaeth, a dyma ni gyda chyrff sydd ddim yn ymgysylltu nac yn egluro a darparu gwybodaeth ynghylch pam na allan nhw ddarparu gwasanaeth priodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Dinbych: “Nid Cyngor Sir Dinbych yw’r awdurdod cyfrifol na rheoleiddiol am unrhyw un o’r materion a godwyd, ac felly ni allwn wneud sylwadau pellach.”

Mae Openreach wedi ymddiheuro i’r trigolion sydd wedi eu heffeithio gan yr oedi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Mae rhan o’n rhwydwaith wedi’i ddifrodi; ond, oherwydd lleoliad y polyn, mae angen rhywfaint o waith ychwanegol arno.”


BBC News

Views: 0

See also  The Prem: Bristol Bears 46-12 Northampton Saints

Check Also

Diwedd gyrfa ddisglair wrth i’r gof aur Rhiannon Evans gyhoeddi ei hymddeoliad

Wrth iddi ymddeol fe fydd marc gwneuthurwr personol Rhiannon yn ymddeol hefyd – gyda’r cwmni …

Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros …

Ex-RAF medic from Pembrokeshire chooses £300k over Lamborghini

A former RAF medic can pay off his mortgage and clear his debts after winning …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa kit. – designed for use with elfbar pod systems.