google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tata: ‘Ry’n ni eisiau teulu – mae popeth yn y fantol’

Dyw popeth ddim yn dod i ben ym Mhort Talbot.

Fe fydd dur sydd wedi’i fewnforio yn parhau i gael ei rolio ar y safle, ac os yw’r cytundeb £500m gyda’r llywodraeth Geidwadol bresennol yn cael y golau gwyrdd fe fydd ffwrnais drydan newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle gan warchod rhai swyddi.

Mae Llafur yn dweud y bydden nhw’n cynnig gwell cytundeb, heb roi manylion, tra bo’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i gael gweledigaeth tymor hir ar gyfer y diwydiant dur.

Dywedodd Reform fod risg y byddai gweithfeydd dur yn cael ei daro o ganlyniad i “brosiectau sero net gwag”, ond mae Plaid Cymru yn dadlau y dylai safle Tata ym Mhort Talbot gael ei wladoli er mwyn sicrhau “newid teg” i “ddur gwyrdd”.

Mae’r Blaid Werdd wedi galw am “strategaeth ddiwydiannol werdd” er mwyn creu swyddi cynaliadwy.

Yn ôl Jess Ralston, dadansoddwr yn y maes, penderfyniadau gwleidyddion – yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – fydd yn dylanwadu ar ddyfodol y diwydiant.

“Ar ddiwedd y dydd, mae Tata yn gwmni rhyngwladol… os nad oes gan Brydain gynllun buddsoddi da, does dim rhaid iddyn nhw roi o yma.”

Gallwch wylio rhaglen Town of Steel – BBC Wales Investigates ar BBC iPlayer.


Source link

Advertisements

See also  Feirws RSV: Rhaglen frechu newydd am 'achub bywydau'

Check Also

Labour calls for M4 relief road, seven years after axing the plan

Asked what he would say to accusations of a U-turn, Skates added: “Well, it’s a …

VisionQuest fans to meet Marvel villain from Wales, with Cardiff accent

Morais recalled being like “a rabbit in the headlights” surrounded by all the stars of …

Tro pedol ar gynllun i ddileu statws eglwysig Ysgol Cilgerran

Mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Iau, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime