google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sylfaenydd Caws Cenarth, Thelma Adams wedi marw yn 86 oed

Cafodd Thelma Adams ei magu ym Mhant-y-blaidd ger Crymych mewn tŷ tafarn.

Roedd gwneud caws yn draddodiad teuluol, gan fynd yn ôl sawl cenhedlaeth yn ei theulu hi a’i gŵr.

Dechreuodd ei mam ddefnyddio llaeth oedd dros ben gan ddwy fuches i wneud caws.

Wrth siarad ar raglen Beti a’i Phobl yn 2017 dywedodd Thelma iddi ddechrau gwneud menyn ond doedd “dim delight yn creu menyn, caws oedd y peth”, meddai.

Sefydlodd ei chwmni Caws Cenarth yn ystod yr 1980au gyda’i gŵr ar eu fferm Glyneithinog, yn Sir Gaerfyrddin.

Dechreuodd greu caws i’w theulu yn gyntaf, cyn mynd ati i ddechrau busnes ei hun.

Ym 1986 enillodd gystadleuaeth Llywodraeth Cymru, Edible Ideas ac ym 1999 enillodd deitl Gwraig Ffermdy y Flwyddyn.

Roedd Mrs Adams hefyd yn rhan o brosiect Dynamo Llywodraeth Cymru lle bu’n ymweld â sawl ysgol a choleg i ysbrydoli pobl ifanc i ddewis gyrfa ym myd busnes.


Source link

Advertisements

See also  Who was St David, the patron saint of Wales?

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime