google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Swyddfa’r Post: ‘Gobeithio bydd erlyniadau ond ddim yn dal fy ngwynt’

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam yn sgil sgandal Horizon y Swyddfa’r Post yn dweud bod rhaid canolbwyntio ar “symud ymlaen” gyda’i fywyd, er mor araf y camau i sicrhau cyfiawnder llawn i’r holl ddioddefwyr.

Roedd Dewi Lewis, oedd yn rhedeg is-swyddfa bost ym Mhenrhyndeudraeth, ymhlith dros 700 o bobl a gafodd eu cyhuddo a’u herlyn ar gam oherwydd gwallau system gyfrifiadurol Horizon.

Fe dreuliodd bedwar mis dan glo yn 2011 wedi i’r system awgrymu bwlch anesboniadwy o dros £50,000 yn ei gyfrifon, ond fe gafodd ei euogfarn ei dileu yn 2024.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn “gobeithio’n fawr fydd ‘na achosion ac erlyniadau’n digwydd, ond dwi’m yn dal fy ngwynt”, wedi i’r heddlu gadarnhau ddechrau’r wythnos eu bod yn ystyried cyhuddiadau posib o ddynladdiad corfforaethol.

Daeth ei sylwadau mewn sgwrs yn edrych yn ôl ar flwyddyn a welodd gyhoeddi adroddiad cyntaf ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal, dan gadeiryddiaeth y cyn-farnwr Uchel Lys o’r Rhondda, Syr Wyn Williams.

Fe nododd hwnnw bod effaith y sgandal ar is-bostfeistri wedi bod yn “drychinebus” a bod ymddygiad swyddogion Swyddfa’r Post a Fujitsu – oedd yn gyfrifol am system gyfrifiadurol Horizon – yn “gwbl annerbyniol”.

Dywedodd Mr Lewis y “bydd hi’n ddiddorol iawn” gweld casgliadau ail adroddiad Syr Wyn, a bod ymgyrchwyr ac is-bostfeistri’n “gobeithio bydd hwnnw yn dod hanner cynta’r flwyddyn” newydd.


BBC News

Advertisements

See also  Sabalenka gets 50th win of 2025 to reach quarters

Check Also

Row over sex shop plan and ex-boss fleeces school of £5m

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Rare Bog Grass Moth species found in Gwynedd nature reserve

A rare species of moth has been found in north Wales. The Bog Grass Moth …

World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

A revamp of the points system for 2025 was welcomed by Evans; it also brought …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime