google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Storm Bert: Beth nesaf i’r busnesau sydd methu cael yswiriant?

Dywedodd Dominic Driver, rheolwr strategol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fod rhybudd llifogydd ar gyfer Pontypridd wedi ei gyhoeddi ddydd Sadwrn, gan “roi rhybudd ymlaen llaw i bobl fod llifogydd yn bosib, ac i fod yn barod”, ynghyd â rhybudd ychwanegol fore Sul pan gyrhaeddodd “yr afon [Taf] lefel tanio’r rhybuddion llifogydd”.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn bwysig nodi bod gwahaniaeth rhwng eu rhybuddion tywydd garw a’r rhybuddion llifogydd, ond ychwanegodd: “Bydd asesiad llawn o’r strategaeth rhagolygon a rhybuddion yn digwydd gyda’n partneriaid.”

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cynnig hyd at £1,000 i aelwydydd sydd wedi eu heffeithio, gan ychwanegu y dylai busnesau gysylltu â Busnes Cymru, gyda chefnogaeth bwrpasol bellach i’w hystyried “wrth i effaith Storm Bert gael ei deall yn well”.

Mae llywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraeth y DU, wedi cael cais am sylw ar y mater yswiriant.


Source link

See also  Alex Callender: Fit-again Wales forward relishing Barbarians bonus

Check Also

Tenby house linked to Middlemarch author seeks holiday let go-ahead

The owner of a seafront home which is said to have inspired a prominent Victorian …

Gwynedd: Calls for action over ‘inappropriate’ campervan parking

There are a rising number of campervans being parked in “inappropriate” locations across Gwynedd, a …

Welsh rugby’s key signings ahead of 2026-27 season

Cardiff have plenty of firepower in the backs but need to provide a platform if …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime